Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Arweinydd y Tŷ, tybed a ellid cael dadl yn amser y Llywodraeth am yr hyn y gallwn ei wneud i gynyddu bwydo ar y fron yng Nghymru. Y DU sydd â'r cyfraddau isaf o fwydo ar y fron yn y byd, ac mae hynny'n rhoi Cymru, mae arnaf ofn, mewn sefyllfa wael iawn. Gwyddom fod 71 y cant o famau yn dechrau bwydo ar y fron, o'i gymharu ag 83 y cant yn Lloegr. Ond mae'n dorcalonnus i wybod mai dim ond 17 y cant sydd yn dal i fwydo ar y fron chwe wythnos yn unig ar ôl yr enedigaeth. Nid yw hyn yn ymwneud yn unig â'r cymorth proffesiynol yr ydym yn ei roi i famau, y gwn y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn ei ystyried, i geisio gwella cyfraddau bwydo ar y fron, ond mae hefyd yn ymwneud ag agweddau cymdeithas tuag at fwydo ar y fron, sydd yn gyfrifoldeb inni oll.
Oherwydd clywsom yr wythnos ddiwethaf gan Dr Aimee Grant o Brifysgol Caerdydd am yr ymchwil a wnaed ganddi mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf yng Nghasnewydd, i'r agweddau tuag at bobl yn bwydo ar y fron yn gyhoeddus. Ac mae hwn yn fater cwbl ganolog, oherwydd nid yw menywod yn mynd i gyfnod o encilio pan fydd babanod ganddyn nhw—mae angen iddyn nhw fod allan ac o gwmpas y lle, wrth eu gorchwylion beunyddiol. Felly, pan ddarllenais fod pobl yn dweud mai y jôc safonol yn fy nghartref i, pe byddwn yn bwydo ar y fron yn Starbucks byddai pawb yn gadael y caffi... a byddai pob menyw ddosbarth canol, dros 60 oed, yn cael ei harswydo.
Mae hyn yn gwbl warthus. Mae bronnau yno er mwyn bwydo babanod, nid er mwyn gwerthu papurau newydd. A dywedodd menyw arall ei bod bob amser yn teimlo bod yn rhaid iddi guddio'r weithred o fwydo ar y fron yn gyhoeddus, a byddai'n teimlo ei bod yn dawnsio ar bolyn wrth fwydo ar y fron. Mae hyn yn gwbl sarhaus, a rhaid i bob un ohonom wneud rhywbeth am hyn, oherwydd yr effaith ddinistriol ar y baban ac ar y fam yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae'n cyfrannu at ein cyfraddau gordewdra, diabetes a chanser, ac mae'n rhaid inni wneud rhywbeth amdano. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad, a dadl ynghylch sut y gallwn ni gyda'n gilydd wneud rhywbeth am hyn.