4. Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir) (Cymru) 2017

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:44, 28 Tachwedd 2017

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i groesawu'r ffaith ein bod ni'n trafod rheoliadau am y tro cyntaf yn ymwneud â threthi datganoledig yng Nghymru. Wrth gwrs, mae tair Deddf wedi'u pasio erbyn hyn ond mae'r Rheolau Sefydlog wedi newid i ganiatáu i'r Pwyllgor Cyllid edrych yn benodol ar reoliadau sy'n ymwneud â threthi datganoledig, ac mae'n fwriad gan y pwyllgor i wneud hynny, yn sicr, fesul tro, wrth i rai newydd, am y tro cyntaf, gael eu cyflwyno.

Rydym wedi cyhoeddi adroddiad ar y rheoliadau hyn. Nid oes dim byd syfrdanol ynddo, mae'n rhaid imi ddweud. Mae'r pwyllgor yn gytûn â bwriad y Llywodraeth a'r hyn mae'r Llywodraeth yn ceisio ei wneud sydd wedi cael ei ddisgrifio gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Yr unig beth y byddwn i am ei bwysleisio heddiw yw mai diddordeb byw'r pwyllgor o hyd yw sicrhau bod canllawiau clir ar gael yn rheoli sut mae'r pwerau yma yn cael eu defnyddio gan y gwahanol gyrff sy'n cael y caniatâd i ddefnyddio gwybodaeth trethdalwyr yn y modd yma, ac er ein bod ni wedi trafod hyn a sicrhau hyn wrth i'r Biliau fynd drwy'r Cynulliad, mae hefyd yr un mor bwysig i sicrhau bod y canllawiau i gyd yn glir iawn yn ymwneud â'r darpariaethau is-ddeddfwriaeth yn ogystal. Diolch yn fawr.