Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Rydw i yn falch, yn absenoldeb yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin heddiw, i gael cymryd rhan yn y ddadl yma ar ran Plaid Cymru ac i droedio hen lwybrau'n siarad ar faterion datblygu economaidd.
Mae yn ddadl ar faes allweddol pwysig, rydw i'n meddwl, i ddyfodol Cymru. Mae ein dyfodol economaidd ni'n seiliedig ar bobl dalentog yn datblygu syniadau ac yn datblygu'r syniadau hynny yng Nghymru, ac mae'n rhaid inni greu'r awyrgylch busnes cywir i alluogi entrepreneuriaeth i lwyddo, ac mae ein gwelliant ni'n taflu rhyw faint o oleuni ar beth y byddwn ni, ym Mhlaid Cymru, yn hoffi ei weld o ran ymyrraeth y Llywodraeth er mwyn cyflawni'r amcan yma.
Mi ganolbwyntiaf i ar arloesedd, sy'n golygu gwneud pethau cwbl newydd neu, o bosib, gwneud hen bethau mewn ffyrdd newydd, ond nid yw arloesedd, yn angenrheidiol, yn digwydd mewn vacuum, ac mae angen hybu ac annog arloesedd. Dyna pam rydym ni'n galw am sefydlu corff arloesi cenedlaethol i gynyddu gwariant ar ymchwil a datblygiad, er enghraifft, i adeiladu enw da i Gymru yn rhyngwladol fel cenedl o ragoriaeth ar gyfer ymchwil ac arloesedd.
Ac mae yna berthynas agos iawn, onid oes, rhwng arloesedd ac entrepreneuriaeth. Pan fo entrepreneuriaid yn trosi gwybodaeth newydd yn arfer newydd, dyna pryd mae arloesi'n digwydd. Mae arloesedd a chreu dyfeisiadau a datblygu syniadau newydd yn creu entrepreneuriaid, ond beth sydd angen i ni ei wneud ydy bod yn genedl sydd yn gallu cyflymu'r raddfa y mae'n entrepreneuriaid ni'n gallu gwneud defnydd ymarferol newydd o syniadau a dyfeisiadau newydd. A dyna le mae rôl y Llywodraeth yn gwbl allweddol.
Mi fyddai'n dda meddwl y byddai'r farchnad ynddi'i hun yn sicrhau bod yna ddigonedd o ymchwil mewn datblygiad cynnyrch, mewn R&D, yma yng Nghymru, ond nid yw pob amser yn wir. Ni allwn ddibynnu ar y farchnad, ac mae enghreifftiau rhyngwladol, wrth gwrs, yn dangos bod rôl cyrff arloesi yn arbennig o werthfawr i fynd i'r afael ar dangyllido, o bosib, mewn cronfeydd R&D, oherwydd methiant y farchnad. Mae yna amrywiaeth fawr o ran maint, o ran strwythur y mathau o gyrff sy'n bodoli mewn llefydd ar draws y byd, ond mae rhesymeg—raison d’être—i'r cyrff hynny'n gyson iawn, mewn difrif. Mae'n bosib mai Innovate UK ac Enterprise Ireland ydy rhai o'r cyrff arloesedd mwyaf adnabyddus yn y byd. Maen nhw'n fawr: £600 miliwn yn achos Innovate UK; €300 miliwn i Enterprise Ireland. Ond mae yna gyrff llawer llai o gwmpas y byd sy'n gweithio mewn cyd-destun rhanbarthol, sub-state, felly, ac sy'n gallu dysgu gwersi gwerthfawr iawn i Gymru.
Soniaf i am barc arloesedd JIC De Morafia yn y Weriniaeth Tsiecaidd, rhanbarth efo dim ond 1.1 miliwn o bobl—diweithdra wedi syrthio o 12 y cant yn 2002 i 4.7 y cant erbyn hyn. Dim ond £0.5 miliwn yn flynyddol oedd cronfa'r parc arloesi pan sefydlwyd hwnnw, ond, erbyn hyn, mae'r ffigwr wedi cynyddu i £1.5 miliwn—swm cymharol fach, ond mae effaith arwyddocaol i'r arian hwnnw. Mae De Morafia wedi cael strategaeth arloesedd rhanbarthol ers 2002 ac mae'r parc arloesedd yn canolbwyntio yn bennaf ar weithredu strategaeth mewn partneriaeth â phrifysgolion, siambr fasnach a mudiadau eraill nid er elw. Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar yr agenda ymchwil ac wedi sicrhau ymchwil fel bod De Morafia yn gwario 3.4 y cant rŵan o'u cynnyrch domestig gros rhanbarthol ar ymchwil a datblygiad. Mae hynny'n deirgwaith y ganran o werth ychwanegol gros Cymru sy'n mynd i'r maes yma. Felly, dyma'n cystadleuwyr ni yr ydym ni angen bod yn cystadlu â nhw o ran ein gwariant ar arloesedd. Mae Gwlad y Basg hefyd yn enghraifft lle mae yna gorff arloesedd rhagorol.
Rydw i'n gwybod nad yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r syniad o gyrff arbenigol hyd braich yn cefnogi'r Llywodraeth yn ei hagenda datblygu economaidd. Rydw i'n cofio pan oeddwn i'n llefarydd economi imi gyflwyno'r syniad o gael Awdurdod Datblygu Cymru newydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. 'Nid ydy o'n ddemocrataidd; cwango ydy o'—dyna oedd y gri oeddwn i'n ei chlywed gan rai, ond, wrth gwrs, yn yr oes ddatganoledig yma, mae'r atebolrwydd yma gennym ni yn y Cynulliad Cenedlaethol. Yn achos Gwlad y Basg, hefyd, mae cyfarwyddwr cyffredinol y corff arloesedd yno yn wleidydd, ac mae o'n newid bob pedair blynedd, felly mae'n bosib gweithredu hyd braich heb golli'r atebolrwydd.
Mae amser yn drech na fi. Mae angen arloesedd mewn polisi hefyd. Mae angen arloesedd yn agwedd Llywodraeth tuag at ddatblygu economaidd. Rydw i'n apelio ar ran busnes, ar ran economi Cymru, am greadigrwydd gan y Llywodraeth a gan yr Ysgrifennydd Cabinet.