Grŵp 1. Dileu’r ataliad dros dro presennol ar yr hawl i brynu (Gwelliannau 5, 14, 9, 11, 1, 3)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:06, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Hoffwn, ar ddechrau fy nghyfraniad, gydnabod a thalu teyrnged i Carl Sargeant am ei arweiniad wrth gyflwyno'r Bil hwn, ac am ei ymrwymiad a'i waith caled i'w lywio drwy Gyfnodau 1 a 2. Hoffwn hefyd ddiolch i Aelodau'r Cynulliad ac, yn benodol, aelodau'r Pwyllgor, am eu craffu adeiladol ar y Bil yn ystod trafodion Cyfnod 1 a Chyfnod 2, ac am y gefnogaeth y mae'r Bil wedi ei chael hyd yn hyn ar ei daith drwy'r Cynulliad.

Mae'r Bil hwn yn ffurfio rhan allweddol o bolisi tai'r Llywodraeth. Bydd rhoi terfyn ar yr hawl i brynu a'r hawl i gaffael yn diogelu ein tai cymdeithasol ar gyfer y rhai mewn angen ac yn rhoi'r hyder i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i fuddsoddi mewn datblygiadau newydd er mwyn helpu i ddiwallu'r angen am dai fforddiadwy o ansawdd yng Nghymru. Mae'r hawl i brynu wedi bod yn nodwedd o dai cymdeithasol ers blynyddoedd lawer yng Nghymru, ac mae hyn wedi arwain at golli nifer sylweddol o gartrefi—mwy na 139,000 rhwng 1981 a 2016—o'r stoc tai cymdeithasol. Yn y blynyddoedd diwethaf, er bod gwerthiant tai cymdeithasol wedi arafu, mae'r stoc tai cymdeithasol yn cael ei golli ar adeg o gryn bwysau ar gyflenwi tai. Gan gydnabod effaith y tai a gollwyd drwy hawl i brynu a'r pwysau parhaus ar dai cymdeithasol, cyflwynodd y Llywodraeth Cymru flaenorol Fesur Tai (Cymru) 2011. Mae hwn yn galluogi awdurdod lleol i wneud cais i atal dros dro yr hawl i brynu a'r hawl i gaffael yn ei ardal. Ar hyn o bryd, fel y clywsom, mae chwe awdurdod lleol wedi atal dros dro yr hawl i brynu.

Mae gwelliant 5 yn ceisio codi'r ataliadau hawl i brynu a rhwystro unrhyw geisiadau pellach am atal dros dro rhag cael eu cyflwyno. Mae cynnig i godi'r ataliadau dros dro yn anwybyddu'r ffaith fod awdurdodau lleol wedi dangos tystiolaeth o bwysau tai sylweddol ac maent wedi cynnig ac wedi cymryd camau i fynd i'r afael â'r pwysau yn ystod y cyfnod atal. Cymeradwywyd ataliadau dros dro lle mae tystiolaeth yn dangos anghydbwysedd sylweddol rhwng y galw am dai cymdeithasol a'u cyflenwad. Byddai codi'r ataliadau dros dro yn gwaethygu'r anghydbwysedd hwnnw ac yn tanseilio diben y Mesur a gweithredoedd y trydydd Cynulliad wrth basio'r Mesur yn 2011.

Mewn ardaloedd ataliedig, mae tenantiaid presennol tai cymdeithasol yn dal i elwa ar ddeiliadaeth a rhenti fforddiadwy. Maent hefyd yn elwa o fuddsoddiad gan landlordiaid i ddod â'r holl dai cymdeithasol i fyny at safon ansawdd tai Cymru, ac mae hyn yn wahanol i'r rhai na allant gael mynediad at dai cymdeithasol.

I'r rhai sy'n anelu at berchentyaeth cost isel, mae'r Llywodraeth hon yn ymrwymedig i'w cefnogi, ond nid ar draul lleihau'r stoc tai cymdeithasol. Mae cynlluniau perchentyaeth eraill ar gael, megis Cymorth i Brynu—Cymru a Chymorth Prynu. Rydym hefyd yn datblygu cynllun rhentu i brynu newydd, sy'n cynnig llwybr i fod yn berchen ar gartref i'r rheini nad oes ganddynt flaendal wedi'i gynilo, ond a all fforddio rhent y farchnad.

Lle mae ataliadau dros dro ar waith, mae landlordiaid tai cymdeithasol yn dawel eu meddwl bod buddsoddiad mewn tai cymdeithasol newydd yn fuddsoddiad hirdymor. Er enghraifft, cynigir datblygiadau yn Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Sir y Fflint. Byddai codi'r ataliadau yn tanseilio ymdrechion awdurdodau lleol i reoli eu stoc tai yn wyneb pwysau cynyddol. Byddai hefyd yn tanseilio ein nod craidd o ddiogelu tai cymdeithasol er budd hirdymor y bobl sydd fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Felly anogaf yr Aelodau i wrthod gwelliant 5 a phob gwelliant cysylltiedig.