Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Rwy'n deall yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Mae problem sylfaenol gyda safbwynt y Ceidwadwyr ar hyn. O'r meinciau hynny, mae dadlau cyson dros wneud penderfyniadau lleol ac awdurdodau lleol yn gallu gwneud y penderfyniadau drostynt eu hunain. Mae'r chwe awdurdod hyn wedi gwneud eu penderfyniadau eu hunain, wedi cael eu hethol i wneud y penderfyniadau hynny, ac wedi atal dros dro yr hawl i brynu yn eu hardaloedd. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn newid hynny, a siawns mai'r cyfan yr ydym yn ei wneud yw adlewyrchu penderfyniadau lleol.