Grŵp 1. Dileu’r ataliad dros dro presennol ar yr hawl i brynu (Gwelliannau 5, 14, 9, 11, 1, 3)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:10, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl ynghylch gwelliant 5. Rwy'n rhwystredig iawn, yn naturiol, fod yr holl fater hwn o gydraddoldeb a thegwch wedi ei osgoi. Gadewch imi ailadrodd pam y mae hynny'n achosi pryder gwirioneddol ar yr ochr hon i'r Siambr. Pan ymgynghorwyd â thenantiaid ar atal dros dro yn yr awdurdodau hynny, roeddent yn cael cysur yn y syniad y byddai yr ataliad yn un dros dro, nid yn barhaol. Nid yw atal hawl dros dro yr un fath â diddymu'r hawl honno. Dyna'r gwahaniaeth, a chredaf nad yw ond yn deg bod pobl yn sylweddoli beth y maent yn mynd i bleidleisio arno. Yn amlwg, gall y Cynulliad hwn gymryd y penderfyniad hwnnw, ond fy nyletswydd i yw sicrhau bod hwn ar gofnod a bod pawb yn amlwg yn deall beth y maen nhw'n ei wneud o ran creu dau ddosbarth o denantiaid rhwng nawr a diddymu'r hawl hwn yn y pen draw.

Dywedodd TPAS Cymru, sefydliad y tenantiaid, wrth y Pwyllgor fod rhai tenantiaid sy'n byw mewn ardaloedd lle mae ataliad dros dro ar waith dan yr argraff y byddai'n rhaid iddo gael ei godi rywbryd, ac yna byddent wedi gallu arfer eu hawl os oeddent yn dymuno gwneud hynny. Dywedasant hefyd, a dyfynnaf, pan fyddai'r hawl i brynu yn cael ei atal yn yr ardaloedd hynny:

Nid oedd y drafodaeth diddymu yno bryd hynny. Felly o ran tegwch a chysondeb ledled Cymru, dylid rhoi rhywfaint o ystyriaeth i'r cyfnod hwnnw o 12 mis fod yn berthnasol yn yr un modd i denantiaid.

Credaf fod hyn yn ateb, er enghraifft, y pwynt gan Simon eu bod rywsut eisoes wedi cael y ddadl hon. Cawsant ddadl ynghylch atal dros dro heb unrhyw hawl, unwaith y gwnaed y penderfyniad hwnnw, ar gyfer cyfnod gras lle gallent wedyn arfer eu hawliau sefydledig. Felly, nid yw'r statudau hyn yr un fath. Mae'r Mesur yn wahanol iawn i'r Bil sydd ger ein bron.

Yn y pen draw, Llywydd, diben y Mesur atal dros dro oedd atal yr hawl i brynu am bum mlynedd, ac nid diddymu'r hawl yn llwyr—mor syml â hynny. Fel y dywedodd Mr Clarke, Cynghorydd i denantiaid Cymru, ceir tenantiaid sydd wedi derbyn yr egwyddor atal dros dro sydd yn awr yn rhagweld, ymhen pum mlynedd, y bydd ganddynt gyfle i ymarfer eu hawl i brynu eu cartref. Wel, wrth gwrs, maent yn mynd i gael eu dadrithio ynglŷn â hynny ar ryw adeg. Ac ofnaf, pan ddigwydd hynny, y bydd gennym lawer mwy o lythyrau yn cael eu hanfon atom, ar ben y rhai yr ydym eisoes wedi'u derbyn, gan denantiaid sy'n anhapus iawn â'r ffordd wahanol hon o drin tenantiaid mewn gwahanol rannau o Gymru.

A gaf i ymateb i rai o'r sylwadau cyffredinol a wnaed, oherwydd credaf fod rhai Aelodau wedi manteisio ar y cyfle yn y grŵp cyntaf i edrych ar rai materion mwy cyffredinol? Mae'n ddrwg gennyf yn amlwg na fydd Siân Gwenllian a grŵp Plaid yn cefnogi'r gwelliant, ond credaf eu bod yn iawn i ddweud mai'r gwir broblem yw diffyg cyflenwad. Mae angen inni adeiladu mwy o gartrefi, ac mae angen inni adeiladu cartrefi mwy cymdeithasol yn benodol. Gwerthfawrogaf yr hyn a ddywedodd Gareth Bennett, ac mae hynny'n ddefnyddiol. Mae'n sicr wedi bod yn fwriad gennym ar yr ochr hon i'r Siambr i wella'r ddeddfwriaeth sydd ger ein bron. Ni allwn atal y diddymu. Credaf fod hynny yn amlwg yn mynd i ddigwydd oherwydd derbyniwyd yr egwyddor eisoes, ac, wrth gwrs, ni chaniateir gwelliannau os ydyn nhw'n difetha egwyddor y ddeddfwriaeth; ni fyddai'r Llywydd yn caniatáu hynny. Felly, rwy'n credu y gallai pob un o'r gwelliannau y byddaf yn eu cyflwyno y prynhawn yma gael eu pasio gan bobl sy'n credu'n gryf bod diddymu yn bwysig iawn, iawn.

Dywedodd Jenny ei bod yn dal yn wir fod cartrefi cymdeithasol yn dioddef o waedlif—defnyddiodd y gair 'gwaedlif'—ac roedd yn rhaid mynd i'r afael â hynny o ran y problem cyflenwad. Wel, credaf fod angen inni gael syniad o'r maint yma. Ceir prin 300 neu 400 o werthiannau dan yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig ar hyn o bryd bob blwyddyn. Rydym yn gobeithio adeiladu rhwng 4,000 a 5,000 o gartrefi cymdeithasol, a chredaf, dros y 10 mlynedd nesaf, y dylem wneud hyd yn oed yn well na hynny. Felly, wyddoch chi, mewn gwirionedd mae'n fater o sicrhau cyflenwad, a chredaf mewn gwirionedd mai dyma'r hyn y dylem fod yn canolbwyntio arno.