10. Dadl Fer: Problem anweledig Cymru — effaith gymdeithasol hapchwarae

Part of the debate – Senedd Cymru am 8:00 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 8:00, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Fel Llywodraeth, ein nod yw gweithio ar draws portffolios i nodi'r camau y gallwn eu cymryd i leihau nifer yr achosion o gamblo cymhellol a chyfyngu ar ei effaith ar bobl Cymru. Fel y gwyddom, nid yw rheoleiddio a thrwyddedu hapchwarae yn faes sydd wedi'i ddatganoli ar hyn o bryd, ond y flwyddyn nesaf, bydd Deddf Cymru yn rhoi pwerau newydd i Weinidogion Cymru a'r Cynulliad mewn perthynas â pheiriannau hapchwarae ods sefydlog. Fodd bynnag, ni fydd y pwerau newydd ond yn berthnasol i drwyddedau newydd a gyhoeddir o dan Ddeddf Hapchwarae 2005, ac ni fyddant ond yn ymwneud â pheiriannau hapchwarae sy'n caniatáu betiau o £10 neu fwy am un gêm. Mae'r cyfyngiad ynddo'i hun yn siomedig. Ni fyddant yn berthnasol i drwyddedau safleoedd betio sy'n gysylltiedig â thrac. Felly, nid yw hynny'n cynnwys traciau rasio ceffylau neu gŵn, neu unrhyw le arall lle mae ras neu ddigwyddiadau chwaraeon eraill yn digwydd.

Wrth gwrs, mae gamblo ods sefydlog wedi bod yn ffocws i lawer o sylw yn y cyfryngau yn y misoedd diwethaf. Roeddwn yn falch o glywed Jayne Bryant yn cyfeirio at Carolyn Harris a'i gwaith yn y Senedd. Mae Llywodraeth y DU newydd lansio ymgynghoriad ar argymhellion ar gyfer newidiadau i beiriannau hapchwarae a mesurau cyfrifoldeb cymdeithasol, gyda galwadau am fwy o reoleiddio, gan gynnwys lleihau betiau gamblo ods sefydlog i £2. Daw'r ymgynghoriad hwnnw i ben ar 23 Ionawr y flwyddyn nesaf. Yn y cyfamser, rydym yn ystyried opsiynau ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio ein pwerau newydd yn y dyfodol i leihau unrhyw niwed a nodwyd o'r math hwn o hapchwarae, gan ddisgwyl â diddordeb am ganlyniadau terfynol ymgynghoriad Llywodraeth y DU.

Hoffwn nodi'n glir mai barn y Llywodraeth hon yw y dylem gael ein pwerau wedi'u hunioni. Os oes unrhyw beth yn mynd i newid y bensaernïaeth gamblo a'r pwerau sydd ar gael, dylid trosglwyddo'r pwerau hynny i Gymru hefyd, yn hytrach na chael rhaniad artiffisial rhwng y mesurau y gallai'r Llywodraeth hon eu rhoi ar waith a mesurau eraill lle mae'n rhaid i Lywodraeth y DU weithredu, neu ni fydd unrhyw weithredu'n digwydd o gwbl yng Nghymru. Buasai hwnnw'n ganlyniad annymunol iawn i'r ymgynghoriad. Gobeithio y gwelir gweithredu gan Lywodraeth y DU, gan nad yw hwn yn fater gwleidyddiaeth plaid.

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod yr angen i weithredu yn awr i fynd i'r afael â phenderfynyddion niwed sy'n gysylltiedig â hapchwarae, gyda'r pwerau sydd wedi'u datganoli i ni. Yng Nghymru, mae gennym nifer o ymyriadau a pholisïau ar waith. Mae'r rhain yn cynnwys Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, sydd eisoes wedi comisiynu adolygiad i edrych ar newidiadau o ran defnydd tir a ganiateir heb fod angen cais cynllunio. Bydd yn ymgynghori ar newidiadau arfaethedig yn y flwyddyn newydd. Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried, yn rhan o hynny, a oes angen newidiadau i atal gorgrynodiad o siopau betio, gan ystyried materion iechyd a'r angen i gynnal bywiogrwydd, hyfywedd ac atyniad canolfannau manwerthu a chanolfannau masnachol sefydledig. Mae hyn yn dychwelyd yn daclus at y pwynt a wnaeth Jane Hutt, pan fyddwch yn meddwl am rai o'n canolfannau lle y ceir crynodiad o'r gweithgaredd hwn eisoes ac rydych yn deall y math o effaith a gaiff ar y gymuned honno, ac nid yn unig fel math o weithgarwch twristiaeth.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi comisiynu ymchwil i fapio pob lleoliad hapchwarae ar draws Cymru. Dylai hynny eu helpu i gydblethu â'r gwaith a gomisiynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gynllunio. Dylai gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru gynnwys map gwres gweledol yn dangos dwysedd lleoliadau hapchwarae yn ddaearyddol, i amlygu ardaloedd lle y ceir crynodiadau o leoliadau hapchwarae. Bydd hynny'n sicr o helpu ein trafodaeth ar y mater hwn ac unrhyw gamau y gallem ddewis eu rhoi ar waith wedyn.

Rydym yn gwybod nad oes unrhyw ymyrraeth feddygol benodol ar gyfer hapchwarae, ond mewn rhai achosion gall ymyriadau seicolegol helpu i ysgogi unigolion i newid eu hymddygiad. Yn 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' rydym wedi cytuno ar gynllun gyda'r GIG i ehangu gwasanaethau therapi seicolegol ar gyfer oedolion a phlant, ac rydym wedi darparu £4 miliwn ychwanegol y flwyddyn i helpu i gyflawni'r cynllun. Er y gall cleifion drafod unrhyw beth gyda'u meddygon teulu, i'r rhai yr effeithir arnynt gan gamblo patholegol neu ddibyniaeth gamblo cymhellol, ceir gwasanaethau eraill y tu allan i'r gwasanaeth iechyd hefyd, fel Gamblers Anonymous neu GamCare, sy'n gallu darparu gwybodaeth a chymorth.

Mae'n werth nodi, o ran yr amrywiaeth o gyfleoedd chwarae sy'n bodoli, mae llawer ohonynt yn cynnwys prynu ar apiau, a cheir ystod o heriau nad ydynt yn annhebyg i rai o'r problemau rydym yn gyfarwydd â hwy mewn perthynas â gamblo. Wrth gwrs, ceir llawer iawn o gemau gamblo ar ddyfeisiau symudol.

Mae sefydliadau eraill ledled Cymru yn darparu gwybodaeth a chyngor, megis canolfannau cyngor ar bopeth. Er enghraifft, mae Cyngor ar Bopeth Casnewydd yn gwneud gwaith ar gefnogi niwed sy'n gysylltiedig â hapchwarae, a ariennir gan GambleAware. Maent yn cyflwyno prosiect lleihau niwed gamblo yng Nghymru. Ei fwriad yw mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig â hapchwarae yn y gwraidd drwy addysg a chodi ymwybyddiaeth pobl ifanc a grwpiau eraill sy'n agored i niwed.

Rwyf am gydnabod y pwynt a wnaeth Mick Antoniw ynglŷn â'n sgwrs barhaus gyda'r diwydiant a'r realiti o orfod bod mor gyfrifol â phosibl yn gymdeithasol, ac nid yw'r sgwrs honno wedi gorffen. Wrth inni symud yn agosach at gael rhai pwerau yn y maes hwn, rwy'n tybio ein bod yn fwy tebygol o gael sgwrs fwy cynhyrchiol gyda'r diwydiant.

Rwy'n siŵr y bydd pobl yn yr ystafell hon yn ymwybodol fod y prif swyddog meddygol yn arwain gwaith ar y niwed a achosir gan hapchwarae fel rhan o'r gwaith o ddatblygu ei adroddiad blynyddol, ac edrychaf ymlaen at weld ei argymhellion cychwynnol yn y flwyddyn newydd. Rwyf am ailadrodd ar y pwynt hwn y cynnig a wnaed yn flaenorol wrth ateb cwestiwn blaenorol i Jayne Bryant fel cynigydd y ddadl hon, ond hefyd i Jane Hutt a Mick Antoniw fel aelodau o'r meinciau cefn a helpodd i gomisiynu'r adroddiad hwn ar y cyd, i gyfarfod â swyddogion sy'n ystyried ymateb Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn newydd. Ar ôl comisiynu'r adroddiad a'r diddordeb amlwg sydd ganddynt, credaf y bydd trafodaeth ddefnyddiol i'w chael gyda'r tri ohonynt, a phe bai'r Aelodau am fanteisio ar y cyfle, buaswn yn hapus i drefnu i hynny ddigwydd.

Mae'n amlwg o'r cyfraniadau heddiw y ceir cytundeb fod angen inni weithio ac nid aros i'r broblem waethygu, a bod rhaid i'r gwaith ddigwydd ar draws portffolios yn y Llywodraeth, ond hefyd gyda phartneriaid y tu allan i'r Llywodraeth. Nid yw hwn yn fater y gall un sector fynd i'r afael ag ef yn llwyddiannus ar ei ben ei hun. Ond mae cyfle yma i chwarae rôl arweiniol yn helpu i leihau nifer y bobl sy'n dioddef o gamblo cymhellol ac eraill y mae'n effeithio arnynt. Mae gan ddull amlbartner o weithredu botensial i leihau nifer yr achosion o gamblo cymhellol a'i effaith ar iechyd pobl Cymru ac ar y gymdeithas ehangach.

Yn rhan o'r gwaith hwnnw, dywedaf unwaith eto y buaswn yn annog Llywodraeth y DU i wneud mwy i fynd i'r afael â phryderon yn ymwneud â hysbysebu hapchwarae, i wella diogelwch defnyddwyr ac i fanteisio i'r eithaf ar y gwahanol opsiynau sydd ar gael i ymdrin â gamblo cymhellol ac amddiffyn pobl rhag niwed sy'n gysylltiedig â hapchwarae, gan gynnwys y pwerau a allai ac a ddylai fod ar gael yma yng Nghymru; ac ailadroddaf fy ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth ag Aelodau yn y Siambr hon a'r tu allan i wneud popeth y gallem ac y dylem ei wneud yma yng Nghymru.