Part of the debate – Senedd Cymru am 6:53 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Ymddengys bod y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan bellach yn derbyn cynnydd twf isel, cynhyrchiant isel a diffyg twf neu ostyngiad mewn cyflogau real i'r mwyafrif fel math newydd o realiti economaidd. A gaf fi ddweud o'r cychwyn nad wyf yn derbyn hynny? Mae cynhyrchiant isel yn ganlyniad uniongyrchol i bolisïau'r Llywodraeth. Mae cyflogau'n isel; mae'n hawdd cyfyngu ar oriau neu derfynu cyflogaeth gweithwyr; mae llawer o gwmnïau'n pryderu o ddifrif ynglŷn â'r cyfeiriad y mae'r economi'n mynd iddo. Felly, mae'n anochel na fydd buddsoddi mewn offer a fuasai'n cynyddu cynhyrchiant yn digwydd, ac o ganlyniad i hynny bydd y cynnydd mewn cynhyrchiant yn arafu ymhellach.
Buasai'n anfoesgar peidio â chroesawu'r arian ychwanegol—mae £1.2 biliwn yn ffigur mawr. Bydd y gyllideb refeniw yn cynyddu £215 miliwn a bydd y gyllideb gyfalaf yn cynyddu oddeutu £1 biliwn, dros 4 blynedd, sy'n cyfateb i ychydig o dan £54 miliwn o refeniw ychwanegol y flwyddyn. Neu fel y mae Andrew R.T. Davies newydd ei ddisgrifio, digon i gael Betsi Cadwaladr allan o drafferth. Er bod croeso iddo, nid dyma'r math o swm i ddod â chyni i ben. Yn sicr nid yw'n ddigon i newid economi.
O'r cyfalaf o £1 biliwn, mae £650 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol ar ffurf cyllid sy'n rhaid ei ad-dalu i Drysorlys y DU, ac mae cyfyngiadau tynn ar yr hyn y gellir ei wario arno. Felly, mae hynny'n gadael £350 miliwn, neu ychydig o dan £90 miliwn y flwyddyn. Pan edrychwch ar beth ydyw mewn gwirionedd, fe welwch nad yw'n agos at fod mor atyniadol ag y ceisiodd y Llywodraeth wneud iddo edrych.
Fodd bynnag, hyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol hwn, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru 5 y cant yn is mewn termau real yn 2019-20 nag ydoedd yn 2010-11. Mae'r Ceidwadwyr yn dilyn yr un polisïau aflwyddiannus ag a oedd gan Herbert Hoover yn America'r 1930au, pan lwyddodd i droi dirywiad ariannol yn ddirwasgiad. Cofiwch hyn, fel y dywedodd Adam Price yn gynharach, nid ydym wedi cael dirywiad yn ein heconomi eto, sy'n dod bob 10 mlynedd neu fwy; rydym yn aros am hynny. Ac er gwaethaf hynny, rydym yn dal i wneud yn wael iawn wrth i ni symud ar hyd y gwaelod. Mae'r dirwasgiad eto i ddod.
Cymerodd fargen newydd Franklin Roosevelt i economi America dyfu. Bydd yn cymryd bargen newydd Jeremy Corbyn i gael economïau Cymru a Phrydain i symud. Roedd y Ceidwadwyr yn arfer dweud eu bod yn rhedeg yr economi fel y mae aelwyd yn rhedeg ei heconomi hithau. Pe bai aelwydydd yn dilyn eu polisïau, ni fuasai neb yn prynu tŷ mwy o faint neu'n cynyddu eu morgais.
Cytunaf â'r rhan o'r cynnig sy'n dweud y dylem resynu at y ffaith na wnaeth cyllideb Llywodraeth y DU unrhyw beth i ymrwymo i forlyn llanw Abertawe. Mae'n rhaid i chi fuddsoddi mewn technoleg newydd. Rydym yn gwybod bod morlynnoedd llanw'n ddibynadwy o ran cynhyrchu trydan. Gwyddom eu bod yn ynni adnewyddadwy. Mewn gwirionedd, gall rhywun ddweud wrthyf beth fydd y llanw ymhen 100 mlynedd. Dyma dechnoleg sydd, oherwydd llanw afon Hafren, yn rhoi mantais enfawr inni yn Abertawe, lle y ceir yr amrediad llanw ail uchaf drwy'r byd, sy'n cyrraedd uchafbwynt o 50 troedfedd. Mae gennym fantais fel gwlad; mae angen inni ei defnyddio.
Fe gaiff y morlynnoedd llanw eu hadeiladu; bydd un yn cael ei adeiladu yn Abertawe. Y cwestiwn yw pryd. Os mai ni yw'r cyntaf, rydym yn datblygu'r dechnoleg, rydym yn datblygu'r gadwyn gyflenwi ac rydym yn dod yn allforiwr y dechnoleg. Os ydym yn rhif 20, rydym yn dod yn fewnforiwr. Dyna a ddigwyddodd gyda thyrbinau gwynt. Caiff tyrbinau gwynt eu cynllunio a'u gwneud yn Nenmarc a'r Almaen yn awr, am eu bod yno ar y dechrau. Rhaid i chi fod yno ar y dechrau i ddatblygu diwydiant. Lle mae'r sgiliau cynllunio'n bodoli, maent yn datblygu'r gadwyn gyflenwi. Maent yn cael yr holl fanteision. Dyna pam, pan fydd gennym dyrbinau gwynt yn dod i mewn, rydym yn eu gweld yn dod ar gwch ac yna'n cael eu cludo i ble bynnag y maent yn mynd ar lorïau mawr iawn neu'n ôl allan i'r môr ar gwch. Ond rydym yn gwybod bod ganddynt fantais am eu bod yno'n gyntaf, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni yno'n gyntaf.
Mae gweithwyr y sector cyhoeddus yn talu'r pris am yr argyfwng bancio a mesurau cyni aflwyddiannus y Torïaid. Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi camau ar waith i gael gwared ar y cap ar gyflogau'r sector cyhoeddus. Yr hyn y maent wedi anghofio ei ychwanegu oedd 'A mwy o ddiswyddiadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.' Gan mai incwm sefydlog sydd gan Lywodraeth Cymru yn y bôn, gyda symiau bach yn unig yn ddyledus oherwydd ei pholisïau treth ac unrhyw incwm y mae'n ei gael i mewn, yna mae pob ceiniog y mae'n ei wario ar rywbeth yn gorfod dod oddi ar rywbeth arall—. Mae'n ddrwg gennyf.