Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Bu problemau o ran cadw cynorthwywyr addysgu. Yn aml, mae cynorthwywyr addysgu yn gymwys fel cynorthwywyr addysgu lefel uwch, ond yn canfod nad ydynt yn cael y cyflog na'r cyfrifoldebau sy'n briodol i'r lefel newydd. Mae hyn wedi cyfrannu at lawer yn gadael y proffesiwn. Pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd i ddatrys y broblem hon?