Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn a'r ffordd angerddol y mae hi'n cynrychioli ei hetholaeth a'r bobl sy'n byw ynddi? Gallaf ddweud wrthi bod yr ymateb gan ysgolion ac awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan yn y prosiect clwstwr cyflenwi gwerth £2.7 miliwn, neu'r treial, yn hytrach, wedi bod yn hynod gadarnhaol. Mae trefniadau ar waith i fonitro'r fenter yn agos a'i gwerthuso, gan gynnwys comisiynu prosiect ymchwil ffurfiol i ddangos manteision y treial fel catalydd ac i ystyried modelau cyflenwi amgen eraill ar gyfer y dyfodol.