Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:57, 5 Rhagfyr 2017

Diolch. Mae'n bwysig, wrth gwrs, yng nghyd-destun beth rydym ni wedi bod yn ei drafod y prynhawn yma yn barod fod y Llywodraeth ar bob lefel yn ymwneud ym mhob ffordd bosibl â gwarchod buddiannau Cymru. Rydw i'n gwybod, ym Mhwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad ar 20 Tachwedd, mi wnaeth yr Ysgrifennydd cyllid sôn am drefniadau bord gron yr Ysgrifennydd dros amaeth. Mi gyfeiriodd at grŵp gweithio yr Ysgrifennydd addysg ar Brexit. Mi gyfeiriodd at y grŵp y mae Ysgrifennydd yr economi yn ei gadeirio ar Brexit. Maes arall fydd yn sensitif iawn i'n hymadawiad ni o'r Undeb Ewropeaidd ydy maes iechyd a gwasanaethau a gofal cymdeithasol. Mewn staffio, mi fydd angen gwthio am visas ar gyfer gallu denu staff i weithio yng Nghymru yn benodol. Mae yna bryderon yn sgil colli'r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, am sut y gallai Cymru greu cytundebau bilateral efo'r asiantaeth newydd yn Ewrop er mwyn parhau i wneud profion ar feddyginiaethau yng Nghymru, ac ati. Mae yna ystod eang o feysydd a fydd angen edrych arnyn nhw.

Pa waith, allech chi ddweud wrthym ni, y mae'r Ysgrifennydd iechyd yn ei wneud o ran arwain tîm gweithredol ar Brexit? Oherwydd mae yna bryder o fewn y maes iechyd yng Nghymru fod hwn yn un maes sy'n cael ei esgeuluso rhywfaint ar hyn o bryd, ac ni allwn ni, yn syml iawn, fforddio hynny.