Gwasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:05, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Rydym ni wedi buddsoddi £1.5 miliwn ychwanegol bob blwyddyn ers 2015-16 i ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl cymunedol ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru. Mae gan bob bwrdd iechyd wasanaeth cymunedol ar waith erbyn hyn, gyda mwy na 2,300 o fenywod yn cael eu gweld ledled Cymru ers dechrau'r flwyddyn diwethaf. Mae'r timau newydd hynny'n helpu i wella canlyniadau iechyd meddwl amenedigol i famau newydd, yn ogystal â'u babanod a'u teuluoedd. Rydym ni hefyd wedi ymrwymo i ddarparu gofal cleifion mewnol arbenigol yng Nghymru yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2018-19 a 2019-20, a gofynnwyd i grŵp llywio Cymru gyfan ar iechyd meddwl amenedigol lunio dewisiadau ar gyfer gofal cleifion mewnol yng Nghymru erbyn diwedd mis Ionawr.