Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Prif Weinidog, rwy'n falch o ddweud, yn rhanbarth Canol De Cymru, bod dau enillydd gwobr aur ac enillydd gwobr arian yng ngwobrau addysgu Pearson a gyhoeddwyd ym mis Hydref. Mae'r rhain yn wobrau uchel iawn eu parch, fel y gwyddoch. Fodd bynnag, er gwaethaf yr enghreifftiau rhagorol hyn o arfer gorau, mae ffigurau diweddar Llywodraeth Cymru wedi dangos, ers 2007, bod nifer yr hysbysebion swyddi ledled Cymru ar gyfer athrawon wedi cynyddu 9.4 y cant, tra bod nifer y ceisiadau wedi gostwng gan bron i 19 y cant. A ydych chi'n credu bod gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae o ran tynnu sylw at faint o foddhad y mae addysgu yn ei gynnig fel proffesiwn a faint o arfer gorau sydd i'w gael yn rhai o'n hysgolion?