Gwasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:08, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, fel pob gwasanaeth iechyd meddwl, mae gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru yn wynebu'r pwysau deublyg o alw cynyddol a phrinder staff. Mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, tynnodd bron i bob bwrdd iechyd lleol sylw at y ffaith fod diffyg seicolegwyr clinigol digonol yn effeithio ar eu gallu i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr i famau newydd. Prif Weinidog, a allwch chi amlinellu'r camau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i gynyddu nifer y seicolegwyr clinigol yng Nghymru? Diolch.