Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Mae hwnna'n ateb diddorol iawn, Prif Weinidog. Credaf, fodd bynnag, ei bod yn bosibl y gallwch chi ddweud wrthym—gan ei fod yn fater o gofnod cyhoeddus—pa bartïon fyddai â hawl i orfodi'r cyfamod sydd yn y dogfennau ar hyn o bryd. A allwch chi ddweud wrthym, hefyd, sawl datganiad o ddiddordeb sydd wedi ei wneud ar gyfer y tir hwnnw yn ystod cyfnod perchnogaeth Llywodraeth Cymru, ac sydd cael eu hatal gan fodolaeth y cyfamod?