Carchar Newydd ym Maglan

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:19, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n credu y gwnawn ni wrando ar y Llywydd presennol yn hyn o beth, os cawn ni. Yn y 15 munud diwethaf, mae Leighton Andrews wedi cyhoeddi ei ddatganiad ei hun yn dweud fel a ganlyn:

Ym mis Tachwedd 2014, dywedais wrth y Prif Weinidog wyneb yn wyneb fy mod i o'r farn y bu diffyg cydymffurfiad â Chod y Cynghorwyr Arbennig. Gofynnais iddo gynnal ymchwiliad ffurfiol. Dywedodd y byddai'n gwneud hynny.

Dywedodd y byddai'n gwneud hynny. A allwn ni gysoni'r ddau gwestiwn trwy roi cyfle i'r Prif Weinidog ychwanegu at yr hyn a ddywedodd wrthyf i, Angela Burns ac Andrew Davies?