2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 2:36, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Rwyf yn edrych ar ddau ddatganiad gan arweinydd y Siambr. Mae'r Llywodraeth yn ddigon teg wedi cyhoeddi datganiadau am erchyllterau terfysgol yn ystod y 18 mis diwethaf. Mae gennym ni gymuned o bobl o'r Yemen yng Nghaerdydd, ac yng Nghymru, ac mae dinasyddion yn yr Yemen yn cael eu bomio ac yn cael eu llwgu i farwolaeth bob un dydd. Roeddwn i'n meddwl tybed beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn, a'r terfysg dyddiol—terfysg a gefnogir gan Saudi Arabia—y mae poblogaeth sifil yr Yemen yn gorfod ei wynebu bob dydd.

Mae'r ail un yn ymwneud â mewnblaniadau rhwyll. Rwyf yn gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar nifer y bobl sydd wedi cael y mewnblaniadau rhwyll hyn yng Nghymru yn ystod y saith mlynedd diwethaf, a hefyd nifer y bobl sydd wedi cael y mewnblaniadau hynny heb roi eu cydsyniad mewn gwirionedd, ac sydd yn dioddef llawer o boen erbyn hyn. Ys gwn i hefyd pa gymorth sydd ar gael i'r bobl hynny a pha driniaeth y gellir ei gynnig iddynt i'w helpu â'u symptomau cronig.