Part of the debate – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Rwyf yn gyfarwydd iawn â'r cynllun, fel y mae'n digwydd, ac mae'n gynllun da iawn yn wir. Gwn fod nifer fawr o rieni sydd wedi dibynnu'n helaeth iawn ar y cynllun yn y gorffennol, ac rwyf innau wedi cael sylwadau tebyg i'r Aelod gan bobl am fudd y cynllun i deuluoedd. Mae'r Gweinidog â chyfrifoldeb yn bresennol ac mae wedi gwrando'n ofalus iawn ar eich sylwadau. Rwy'n siŵr y bydd ef yn gallu cyflwyno rhywbeth maes o law a bydd yn tawelu ofnau pobl.