Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Gan gydnabod y cyfrifoldebau cyllidol newydd sydd wedi eu datganoli i ni, cytunodd y Cynulliad ar broses gyllideb newydd. Am y tro cyntaf, cyhoeddwyd ein cynigion cyllidebol mewn dau gam. Amlinellwyd prif elfennau'r gyllideb ar 3 Hydref, gan adlewyrchu'r cyfrifoldebau cyllidol newydd hynny, gan ddangos o ble y daw'r arian a sut y bwriedir ei ddyrannu ar draws adrannau. I helpu i ddeall hyn yn well, cyhoeddwyd cyfres o ddogfennau ochr yn ochr â'r gyllideb, gan gynnwys adroddiad y prif economegydd, adroddiad polisi treth Cymru, a'r adroddiad annibynnol gan Brifysgol Bangor. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Cyllid am ei holl waith mewn cysylltiad â'r gyllideb hon, ac yn falch o weld yn eu hadroddiad iddyn nhw ddweud eu bod yn fodlon â'r manylder a gafwyd ochr yn ochr â'r gyllideb amlinellol. Edrychaf ymlaen at fynd ati mewn modd cadarnhaol i geisio cyflawni'r argymhellion pellach a nodir yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid.
Ar 24 Hydref, Dirprwy Lywydd, darparwyd mwy o fanylion ynglŷn â gwariant y gyllideb nag erioed o'r blaen. Mae hwn yn gam y galwodd cyd-Aelodau yn y Siambr amdano y llynedd, a gobeithio iddo fod yn ddefnyddiol o ran cefnogi'r gwaith craffu'n ystyrlon fesul adran. Mae'r sesiynau craffu a gynhaliwyd gan y pwyllgorau pwnc unigol wedi bod o ddiddordeb mawr i mi, a hoffwn roi ar gofnod fy niolch i'r holl Aelodau sydd wedi chwarae eu rhan yn ein proses gyllideb sy'n esblygu. Fy marn i ar hyn o bryd yw bod y broses dau gam wedi gweithio'n unol â'r bwriadau a arweiniodd at ei greu, ond edrychaf ymlaen, wrth gwrs, i glywed profiadau pobl eraill yn hyn o beth yn ystod y prynhawn.
Yr hyn sy'n fwy heriol, Llywydd, yw'r anhwylustod anochel a achosir gan gyllideb y DU yn cael ei llunio yn hwyr yn ein proses gyllideb ddrafft ni ein hunain. Mae'r anhwylustod hwnnw yn amlwg yn y ddadl heddiw, wrth inni drafod cyllideb ddrafft a gafodd ei pharatoi cyn inni dderbyn y dyraniadau pellach a wnaed ar 22 Tachwedd. Rwy'n bwriadu defnyddio'r rhan fwyaf o'r amser sydd ar gael imi y prynhawn yma i nodi sut y bwriadaf alinio'r adnoddau a ddyranwyd inni yng nghyllideb y DU gyda phrosesau cyllideb ein hunain. Cyn gwneud hynny, fodd bynnag, gadewch imi ymdrin yn fyr â'r cyd-destun macro-economaidd a ddatgelir gan gyllideb y DU. Roedd y diwygiadau negyddol a fu i'r rhagolygon economaidd, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yn cadarnhau twf economaidd gwannach, refeniw treth is, a mwy byth o bwysau ar safonau byw. Mae'r cyd-destun hwnnw yn effeithio'n uniongyrchol ar ein cyllideb yma yng Nghymru oherwydd mae'r rhagolygon newydd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn helpu i lunio'r adnoddau a fydd ar gael i Gymru drwy gyfrwng fframwaith cyllidol.
Paratowyd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 gan ddefnyddio gwybodaeth economaidd o gyllideb wanwyn y DU, gan gynnwys rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Bydd ein rhagolygon ein hunain o ran refeniw treth, sy'n defnyddio nifer o nodweddion economaidd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yn cael eu diwygio nawr i adlewyrchu'r wybodaeth newydd a ryddhawyd ochr â chyllideb mis Tachwedd. Fel rhan o'u gwaith, bydd Prifysgol Bangor yn craffu ar y rhagolygon diwygiedig hyn ac yn sicrhau eu bod yn gywir, ac rwy'n hapus i gadarnhau y prynhawn yma, Llywydd, y byddaf yn cyhoeddi adroddiad cryno o waith craffu Prifysgol Bangor ochr yn ochr â'n cyllideb derfynol ar 19 Rhagfyr. Hoffwn ddiolch i'r tîm o Fangor am eu gwaith rhagorol hyd yn hyn. Rwy'n falch o allu rhoi gwybod i'r Aelodau eu bod nhw wedi cytuno i ymestyn eu contract presennol i ymgymryd â gwaith craffu annibynnol a rhoi sicrwydd ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf, gan adeiladu ar yr arbenigedd y maen nhw wedi ei ddatblygu eleni. Bydd y trefniant hwn yn parhau wrth inni sefydlu trefniadau parhaol ar gyfer llunio rhagolygon refeniw treth annibynnol i Gymru. Mae trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn parhau ar hynny, a byddaf yn diweddaru'r Aelodau wrth inni wneud cynnydd pellach.
Llywydd, gadewch imi ddychwelyd at y ffordd y caiff penderfyniadau am ein cyllideb eu gwneud mewn cysylltiad â phenderfyniadau Llywodraeth y DU. O ran refeniw, dros yr wythnos nesaf, byddaf yn parhau i gynnal trafodaethau gyda chydweithwyr yn y Cabinet, ynghylch y symiau canlyniadol gwerth £215 miliwn o gyllideb y DU fydd ar gael i Gymru dros gyfnod o bedair blynedd. Mae Prif Weinidog Cymru wedi cytuno y ceir cyflwyno papur i'r cyfarfod Cabinet llawn nesaf, ar 12 Rhagfyr, pryd y byddaf yn cyflwyno cyfres o gynigion i'w trafod. Ar yr un pryd, yn unol â'n cytundeb blaenorol, byddaf yn trafod materion o ddiddordeb cyffredin gyda Phlaid Cymru, ac rwy'n ddiolchgar i Steffan Lewis am wneud amser eisoes i ddechrau ar y trafodaethau hynny.
Llywydd, fy mwriad i yw y bydd canlyniad y trafodaethau hyn ar oblygiadau refeniw cyllideb 22 Tachwedd yn cael eu hadlewyrchu yn y gyllideb derfynol, y mae'n rhaid imi ei chyflwyno gerbron y Cynulliad hwn ar 19 Rhagfyr. Bwriadaf wneud hynny oherwydd credaf ei bod hi'n arbennig o bwysig rhoi cymaint o sicrwydd ag y bo modd i'n partneriaid o'r gwasanaethau cyhoeddus o ran yr adnoddau a fydd ar gael iddyn nhw i ddarparu'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu dros y ddwy flynedd nesaf.
Yna bwriadaf droi i drafod ymhellach y symiau cyfalaf canlyniadol o gyllideb y DU, gan gynnwys cyfalaf trafodion ariannol. Gobeithiaf gynnal y trafodaethau hynny dros gyfnod y gwyliau. Rwy'n addo y prynhawn yma, Llywydd, y caiff unrhyw benderfyniadau cynnar ynglŷn â blaenoriaethau cyfalaf uniongyrchol y mae'n bosibl cytuno arnynt, cyn inni drafod y gyllideb derfynol ar 16 Ionawr, eu hegluro i'r Aelodau cyn y ddadl honno ar 16 Ionawr fel y bydd Aelodau yn gwybod amdanyn nhw cyn inni gymryd y bleidlais derfynol. Ni chaiff y dyraniadau cyfalaf hynny eu hadlewyrchu yn y gyllideb derfynol; ni allaf ei wneud hynny mewn pryd. Ond byddaf yn ceisio gwneud yn siŵr bod yr Aelodau yn cael cymaint o wybodaeth ag y gallaf i ei rhoi iddyn nhw, ac y bydd gwybodaeth yn cynnwys unrhyw symiau cyfalaf canlyniadol ychwanegol yr wyf yn gallu cytuno arnynt gyda Phlaid Cymru, fel rhan o'n trafodaethau gyda nhw.
Llywydd, mae trydedd elfen y mae'n rhaid inni ymdrin â hi o ganlyniad i gyllideb y DU. Cyhoeddodd y Canghellor benderfyniad i roi eithriad newdd i brynwr tro cyntaf o ran treth tir y doll stamp fel rhan o'i gyllideb. Gwnaeth hynny, fel y gŵyr yr Aelodau, er gwaethaf cyngor clir iawn gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y byddai eithriad o'r fath yn fwy tebygol o fod o fudd i werthwyr, drwy godi prisiau, yn hytrach na phrynwyr, ac y bydd yr eithriad yn agored iawn i gam-fanteisio. Golyga'r newid a gyflwynwyd gan Ganghellor y Trysorlys na fydd 80 y cant o brynwyr tro cyntaf, yn Lloegr, yn talu unrhyw dreth stamp o gwbl. Bydd y cynigion a wnaed gennyf ar 3 Hydref, er mwyn pennu man cychwyn treth trafodiadau tir ar £150,000 ar gyfer Cymru o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf, eisoes yn golygu y bydd 70 y cant o'r holl brynwyr tro cyntaf yng Nghymru wedi eu heithrio o'r dreth honno.
Mae penderfyniad y Canghellor, fodd bynnag, yn arwain at rywfaint o arian ychwanegol i Gymru drwy addasiad i'r lleihad yn y grant bloc. Mae'r arian hwnnw felly yn ychwanegol at y symiau refeniw canlyniadol o £215 miliwn, fel yr eglurais yn gynharach. Rwy'n dal i ystyried sut orau y gellid defnyddio'r cyllid ychwanegol hwnnw yng Nghymru, ac rwy'n bwriadu gwneud cyhoeddiad ar fy mhenderfyniadau yn y maes hwnnw cyn diwedd y tymor hwn.