5. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2018-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:38, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Llywydd, dyna'n union ydyw. Mae'n ganlyniad un-tro o'r amserlenni'n gwrthdaro eleni ond ni fyddant yn gwrthdaro yn y dyfodol. Mae'n golygu bod yr addasiad i'r grant bloc yn symud fymryn o'n plaid. Rwyf yn edrych i weld beth y gellid ei wneud gyda'r adnodd hwnnw. Ac, fel y dywedaf, Llywydd, byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau yn ymwybodol o ganlyniad yr ystyriaeth honno cyn diwedd y tymor.

Llywydd, rwyf yn sylweddoli nad yw rhoi gwybodaeth i'r Aelodau yn y ffordd ddigyswllt anorfod hon yn gwbl dderbyniol. Mae'n ganlyniad y gwrthdaro rhwng amserlen ein cyllideb ni ac un Llywodraeth y DU. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cytuno bod y cynllun a amlinellais i y prynhawn yma wedi ei lunio i roi cymaint o wybodaeth â phosib i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn y cynhelir pleidlais derfynol ar ein cynigion cyllideb. Y dewis arall, fel y dywedais yn y Pwyllgor Cyllid, yw mabwysiadu'r model a gytunwyd gan Senedd yr Alban, lle mae Aelodau Senedd yr Alban yn gweld y gyllideb ddrafft am y tro cyntaf ar 14 Rhagfyr, pan na fydd cyfle i drafod neu graffu hyd nes y bydd ystyriaeth wedi'i rhoi i'n cyllideb derfynol ni yma. Yn ei adroddiad, mae ein Pwyllgor Cyllid yn cydnabod yr effaith niweidiol y mae penderfyniad Llywodraeth y DU i gael cyllideb sydd â dyddiad amhenodol yn yr Hydref yn ei chael ar allu Llywodraeth Cymru i gynllunio gwariant cyllidol a pholisi treth. Yr ochr arall i'r geiniog, fodd bynnag, yw'r budd sylweddol i'r GIG, llywodraeth leol a phartneriaid darparu eraill o ran cyhoeddi ein cynlluniau busnes ym mis Hydref. Ar y cyfan, roedd aelodau'r Pwyllgor wedi dod i'r casgliad bod yn well ganddynt y trefniant sydd gennym ar waith yma yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y byddant yn cytuno y dylem  barhau i gadw golwg ar y prosesau sydd gennym wrth i'n cyfrifoldebau cyllidol ddatblygu tra byddwn yn parhau i wneud pethau yn y ffordd honno. 

Llywydd, i gloi, fe wnaethom gytuno y byddai proses y gyllideb newydd yr ydym ni wedi dechrau arni eleni yn bennod newydd ac y byddai gwersi i'w dysgu ar gyfer y dyfodol. Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn arbennig o ddefnyddiol o ran nodi meysydd lle mae angen gwneud cynnydd pellach ac, fel y dywedais yn y Pwyllgor, rwyf wastad yn fodlon ystyried ffyrdd y gallwn ni wella'r wybodaeth yr ydym ni yn ei darparu a mynd ati i gyflawni ein cyfrifoldebau yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Rwy'n diolch i'r Pwyllgor unwaith eto am eu hargymhellion, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw arnynt a chlywed barn yr Aelodau y prynhawn yma.