Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Mae angen inni wybod llawer mwy am flaenoriaethau'r Llywodraeth a sut maen nhw'n cydymffurfio â'r cynlluniau gwariant a gyhoeddwyd ganddynt. Yn y cyd-destun hwn, hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid—sy'n siarad drosof yn hyn o beth os nad mewn unrhyw beth arall—am y ffordd ardderchog y mae wedi cadeirio'r Pwyllgor, ac yn wir am gwrteisi di-ball yr Ysgrifennydd Cyllid tuag at bob Aelod wrth iddo ymddangos ger ein bron.
Mae awyrgylch penodol o ddiffyg realiti am y dadleuon hyn ynglŷn â'r gyllideb, fel y dywedais yn fy araith ar y gyllideb ddrafft, oherwydd mae'n anorfod bod yr Ysgrifennydd Cyllid wedi ei gyfyngu gan y gwariant. Mae maint y gwariant dewisol mewn gwirionedd yn eithaf bach, er y dylai hynny gynyddu yn y blynyddoedd i ddod, wrth inni ddechrau arfer ein pŵer dros drethi datganoledig a hefyd ein pŵer cymharol gyfyngedig ond pwysig serch hynny i fenthyca ar gyfer gwariant ar gyfalaf prosiectau. Ond yr hyn sydd wedi digwydd yn y gyllideb hon, ar y cyfan, yw bod y gyllideb iechyd wedi'i chynyddu ar draul popeth arall. Mae hynny, mae'n debyg, mewn ffordd, yn anochel hefyd oherwydd, fel y gwyddom, chwyddiant iechyd yn fwy na'r gyfradd chwyddiant yn gyffredinol. Mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio ac, oherwydd datblygiadau mewn meddygaeth, mae modd trin mwy o gyflyrau, ac mae pobl yn byw'n hirach, felly mae'n anochel y bydd cynnydd anferth yn y gyllideb iechyd ar lefel y DU ac yng nghyllideb Cymru.
Felly, mae gennyf gydymdeimlad mawr â'r Ysgrifennydd Cyllid yn ei swyddogaeth anodd o orfod cydbwyso'r holl hawliadau. Ond mae'n ddiddorol bod rhai cyllidebau wedi'u torri'n fwy o lawer nag eraill. Mae cyllideb yr Amgylchedd wedi cael ergyd arbennig o drom, tua 15 y cant mewn termau real, tra bod y gyllideb iechyd wedi gweld cynnydd o swm bach yn unig o safbwynt canran, ond serch hynny, fel rhan o gyllideb fawr iawn, o swm sylweddol—£166 miliwn ychwanegol.
Mae hynny i gyd i'w groesawu'n fawr, ond yr hyn sy'n peri gofid am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yw nid cymaint faint o arian yr ydym ni'n ei wario arno, ond afradlonedd rhai o'r byrddau iechyd o ran yr hyn y maen nhw'n ei wneud gyda'r arian a gânt. Rydym yn gwybod am y problemau o ran y diffygion ariannol sy'n bodoli ar y funud, yn enwedig ym Myrddau Iechyd Hywel Dda a Betsi Cadwaladr. Mae Betsi Cadwaladr yn hercian yn ei blaen; ddwy flynedd yn ôl roedd diffyg sylweddol, gwelwyd gostyngiad, ac eleni mae'n edrych fel petai'n codi eto. Felly, ymddengys nad ydym yn gwneud rhyw lawer o gynnydd yn hynny o beth, a hyd nes y cawn ni reolaeth briodol dros broblemau'r byrddau iechyd sydd mewn mesurau arbennig neu'n derbyn ymyrraeth wedi'i thargedu, mae hyn yn mynd i fod yn broblem anhydrin i'r Ysgrifennydd Cyllid.
Mae materion eraill y credaf y dylem ni droi ein sylw atynt. Roedd edrych ar faint o arian sy'n cael ei wario ar ardaloedd menter o ddiddordeb arbennig imi. Rwy'n credu bod ardaloedd menter yn syniad da iawn, ac mae ganddyn nhw'r gallu i roi hwb i'r economi mewn ardaloedd sydd â phroblemau hirdymor sylweddol fel arall. Ond pan rydych chi'n edrych ar faint o swyddi sydd wedi eu creu neu eu diogelu mewn gwirionedd o'i gymharu â faint o arian sydd wedi'i wario arnynt, mae'n rhaid inni ofyn inni ein hunain a yw hynny yn werth am arian. Nid yw hynny'n golygu fy mod eisiau gweld y symiau hyn y cael eu diddymu, ond hoffwn i weld ein bod yn cael mwy o werth am ein harian.
Os edrychwn ni ar ardal fenter Glynebwy, er enghraifft, gan anwybyddu costau anferthol datblygiad ffordd Blaenau'r Cymoedd, a fyddai wedi ei gynnwys yn y gwariant yn y maes hwnnw. Os edrychwch yn ôl i'r sefyllfa cyn 2016, cafodd cyfanswm o tua 400 o swyddi eu creu neu eu diogelu yng Nglyn Ebwy ar gost o bron £20 miliwn. Nawr, nid wyf i'n credu bod hynny'n werth da iawn am arian. Os ewch chi drwy weddill y parthau menter hefyd, mae rhai yn gwneud yn llawer gwell nag eraill, ac mae costau creu swyddi yn well o lawer mewn rhai nag eraill. Felly, credaf fod gwir angen inni edrych yn fanylach ar a ydym ni'n cael gwerth am arian o'r prosiectau hyn, oherwydd er bod y syniad y tu ôl iddyn nhw yn sicr yn ganmoladwy, mae angen inni ofyn i ni ein hunain a ydyn nhw mewn gwirionedd yn perfformio i ni.
Roedd un elfen arall yn y gyllideb, y cyfeiriodd Nick Ramsay ati funud yn ôl, mewn gwirionedd, yn ymwneud ag atal, ac wrth gwrs mae pwysau aruthrol i wario ar anghenion presennol. Ond os ydym yn mynd i dorri costau neu wella perfformiad yn y tymor hirach, rhaid inni ystyried pethau'n fwy hirdymor. Buom yn trafod hyn gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn y Pwyllgor Cyllid, ac rwy'n gwybod ei bod hi'n anodd i'r Ysgrifennydd Cyllid—rwyf yn ymwybodol o'r anawsterau sydd ganddo i'w datrys—ond mae angen inni wario mwy ar edrych ymlaen at broblemau'r dyfodol a'u rhagweld, a thrwy hynny leihau'r costau sy'n mynd i ddod ar ein gwarthaf yn y dyfodol.
Rydym ni wedi clywed y cwynion arferol am y cynni honedig, wrth gwrs, ac rwyf wedi ymateb i hyn yn y Siambr lawer gwaith. Gyda'r ddyled genedlaethol bellach yn agosáu at £2 triliwn o'i gymharu ag £1 triliwn fel yr oedd hi bum mlynedd yn ôl, gall neb ddweud gydag unrhyw hygrededd fod Llywodraeth San Steffan wedi gwneud unrhyw beth heblaw am chwistrellu arian at yr economi. Y broblem yw, yn aml iawn, ei fod yn cael ei wario ar y pethau anghywir. Unwaith eto, rwyf wedi traethu ynghylch hynny yn y gorffennol ac nid wyf yn bwriadu ailadrodd fy hun heddiw.
Ond, mae'r gofyniad benthyca eleni bron yn £50 biliwn o'i gymharu â £83 biliwn y llynedd. Mae'r ddyled genedlaethol yn 85.6 y cant o'r cynnyrch domestig gros eleni—sef 3 y cant yn fwy nag ydoedd yn 2015-16. Mae'r ddyled genedlaethol yn dal i godi, ac yn codi fel cyfran o'r cynnyrch domestig gros, ac mae hynny'n golygu, wrth edrych ymlaen at genedlaethau'r dyfodol, bod hyn yn faen melin am wddf ein plant a'n hwyrion a thu hwnt. Wrth gwrs, mae benthyca yn mynd i fyny ac i lawr wrth i'r rhod droi, ond rydym bellach yn y ddegfed flwyddyn ers argyfwng ariannol 2008 ac fe ddylen ni mewn gwirionedd fod wedi gwneud llawer iawn mwy o gynnydd yn torri benthyca nag yr ydym ni wedi'i wneud, oherwydd ni allwch chi fenthyca am byth.
Mae Venezuela yn awr yn darganfod hyn, fel y mae Zimbabwe a llawer o wledydd eraill ledled y byd, ac yn wir roedd Prydain wedi darganfod hynny yn y 1970au. Yn wir, ar ôl pob Llywodraeth Lafur, gwelir fel arfer bod problem economaidd sylweddol y mae'n rhaid ei datrys. Nid wyf yn esgusodi'r Llywodraeth Geidwadol o rywfaint o'r bai yma, ond y gwir amdani yw, fel y nododd Nick Ramsay wrth ymateb i Mick Antoniw yn gynharach, ar ôl 13 blynedd o Lywodraeth Lafur hyd at 2010, roedden nhw wedi gwastraffu'r gwaddol a adawyd gan Kenneth Clarke; ar ôl gweinyddiaeth gyntaf Blair, fe wnaethon nhw ryddhau'r ffrwyn ar wariant, a'r canlyniad oedd, yn hytrach na thrwsio'r to pan oedd yr haul yn tywynnu, canfuwyd fod tyllau mawr ynddo ar adeg pan oedd y glaw yn arllwys yn ddidrugaredd ar ôl—[torri ar draws .] Gwnaf, yn sicr.