5. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2018-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 4:19, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Credaf, os yw'r aelod yn edrych ar y cofnod, y bydd yn canfod, o dan Lywodraeth cyntaf Blair, y gwnaethon nhw leihau cyfran y ddyled mewn cynnyrch domestig gros hyd at 2001, a rhwng 2001 a 2010 fe gododd yn raddol bob blwyddyn tan y ffrwydrad ar ôl 2008. Nid yw'r ffigurau gyda mi heddiw, ond rwyf yn fodlon eu hanfon. Daw o hyd iddyn nhw yn y papur ymchwil yn Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin, sy'n rhoi'r ffigurau. Felly, dyna realiti'r cefndir i'r gyllideb.

Ni allwn ni ddefnyddio hudlath i wneud i'r problemau macro-economaidd y mae'r DU yn eu hwynebu ddiflannu. Os ydym ni'n ceisio gwneud hynny, yna byddwn yn gwneud pethau hyd yn oed yn waeth i ni yn y dyfodol. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw tyfu'r economi. Yn yr Unol Daleithiau erbyn hyn, mae cynlluniau i ostwng y dreth gorfforaeth yn sylweddol. Adlewyrchir hyn yn Ffrainc, yn yr Almaen, yn yr Eidal, yn y Swistir, a dyma'r hyn sydd ei angen ar gyfer Prydain. Rwyf i o blaid datganoli'r dreth gorfforaeth i Gymru fel y gallwn ni lunio ein llwybr ein hunain yn hyn o beth hefyd. Ond rwy'n sylweddoli bod hynny'n ddadl ar gyfer diwrnod arall. Felly, er fy mod i'n croesawu'r gyllideb, rwy'n cydnabod y cyfyngiadau sy'n llyffetheirio'r Ysgrifennydd Cyllid, ac rwy'n credu bod yna bethau y gallwn ni eu gwneud i addasu pethau ar y cyrion, ond ni all wneud fawr mwy na hynny.