5. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2018-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:36, 5 Rhagfyr 2017

Diolch yn fawr, Llywydd. Wrth gwrs, gyda ryw jest dros 49 y cant o holl gyllideb y Cynulliad yn disgyn yn y maes iechyd—rhyw £7.3 biliwn allan o gyllideb o £15 biliwn—yn naturiol, bu i aelodau'r pwyllgor iechyd fynd ati i graffu gyda brwdfrydedd heintus ar yr holl arian yna sydd yn cael ei wario yn y maes o dan y drefn newydd rydym ni wedi clywed amdani. A allaf i ddiolch i fy nghyd-Aelodau am eu gwaith a hefyd i'r clercod a'r ymchwilwyr am eu cefnogaeth? 

Cafwyd proses casglu tystiolaeth sylweddol o fis Mehefin ymlaen—craffu ariannol o dan adain Ysgrifennydd y Cabinet, ac wedyn, drwy fis Medi a'r Hydref, tystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth lafar gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru. Yn Hydref, cawsom Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol o'n blaenau yn y pwyllgor, a hefyd, ym mis Tachwedd, tystiolaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant hefyd o'n blaenau ni.

Sawl prif thema: newid trawsffuriol ydy'r prif thema. Mae trawsnewid y gwasanaeth yn sylweddol yn ganolog i lwyddiant hirdymor gwasanaeth iechyd sy'n ariannol hyfyw, ochr yn ochr â chyllid i alluogi'r newid yma. Os na fydd hyn yn digwydd, byddwn yn parhau mewn sefyllfa lle mae symiau ychwanegol o arian Llywodraeth Cymru yn cael eu defnyddio ar gyfer cynnal y modelau cyflawni presennol yn unig, heb ddim newid trawsffurfiol. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthym am y buddsoddiad ychwanegol o ryw £450 miliwn yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru dros y ddwy flynedd nesaf. Rhaid defnyddio'r dyraniadau hyn i'r gwasanaeth iechyd er mwyn galluogi newid hirdymor.  

Argymhelliad y pwyllgor ydy y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau, ar ôl cyhoeddi’r adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol ym mis Ionawr flwyddyn nesaf, ei bod yn prisio’n llawn gynlluniau i ddatblygu newid trawsffurfiol o ran iechyd a gofal cymdeithasol. Rhaid i gyllid ychwanegol ar gyfer y GIG fod yn seiliedig ar gyflawni newid. Dylai Llywodraeth Cymru ymhellach nodi ffyrdd y mae trawsnewid a chyllid ar gyfer trawsnewid yn cael ei flaenoriaethu ac ar gael i sefydliadau'r gwasanaeth iechyd o gyllidebau presennol.

Yn troi at gyllid y byrddau iechyd, gwyddom fod y gyfran fwyaf o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth iechyd Cymru yn mynd yn uniongyrchol i fyrddau iechyd, a cheisiodd y pwyllgor edrych yn fanwl ar eu sefyllfa ariannol bresennol. Eleni, rydym wedi canolbwyntio'n benodol ar fyrddau iechyd. Rydym yn nodi nad yw uchelgeisiau Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 wedi cael eu gwireddu'n llawn gan holl gyrff y gwasanaeth iechyd. Mae'n siomedig bod pedwar o'r saith bwrdd iechyd lleol wedi nodi diffyg yn un o leiaf o'r tair blynedd flaenorol. Mae'n destun pryder, yn benodol, bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr a bwrdd iechyd Hywel Dda wedi nodi diffyg bob blwyddyn o 2014 ymlaen.

Dylai Llywodraeth Cymru, felly, adolygu'r dull presennol o bennu cyllidebau byrddau iechyd a chyhoeddi ei chanfyddiadau. Gwyddom fod y Sefydliad Iechyd wedi dweud bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn wynebu'r cyfnod mwyaf ariannol heriol yn ei hanes ac felly yn edrych am arbedion o ryw £700 miliwn, fel sydd wedi cael ei sôn o’r blaen. Dylai Llywodraeth ddatblygu rhaglen effeithlonrwydd Cymru gyfan er mwyn sicrhau bod arferion da lleol yn cael eu troi yn newid ar draws yr holl wasanaethau ledled Cymru.

Arian ar gyfer gofal cymdeithasol: yn hanfodol bwysig dylid darparu gofal cymdeithasol cynaliadwy ac o safon. Rydym ni’n sôn mewn argymhelliad bod angen dull gweithredu system gyfan o ran iechyd a gofal cymdeithasol. Rhaid iddi gynllunio i sicrhau bod arian ychwanegol ar gael flwyddyn ar ôl blwyddyn ar gyfer gofal cymdeithasol a’i fod yn ddigonol i fodloni gofynion cynyddol. Bydd colli gofal cymdeithasol yn golygu colli’r gwasanaeth iechyd yn gyfan gwbl.

Troi at chwaraeon, roedd y pwyllgor yn synnu gweld y newid diweddaraf i bortffolios Llywodraeth Cymru—nid oes gyda fi amser i fynd i mewn i’r manylion, dim ond nodi bod hyn wedi symud o un portffolio i’r llall. Dylem ni, fel sydd wedi cael ei sôn eisoes, flaenoriaethu cyllid cyfalaf ar gyfer gofal sylfaenol yn y gymuned, a sicrhau ei bod yn gwella'r gallu yn nhermau adeiladau yn y gymuned ar gyfer gweithio'n amlddisgyblaethol ac yn hyrwyddo modelau gofal newydd. Dylai Llywodraeth Cymru hefyd gynnal adolygiad pellach o'r arian sydd wedi'i neilltuo ar gyfer iechyd meddwl, i asesu a yw wedi arwain at wariant effeithiol a phriodol ar iechyd meddwl ac ar sicrhau canlyniadau gwell i gleifion. Dylai Llywodraeth Cymru hefyd edrych ar y ffordd y mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn ariannu iechyd carcharorion, achos nid ydym ni'n derbyn hanner digon o bres.

Ac i orffen, felly, mae angen ystyried y swm sylweddol y mae gwasanaeth iechyd Cymru yn ei wario ar staff asiantaeth, a dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad o'r holl anghysonderau a’r cymhellion gwrthnysig ar draws y trefniadau asiantaeth.

Felly, hoffwn feddwl bod y craffu mwyaf manwl erioed ar y gyllideb iechyd yn mynd i esgor ar y newidiadau angenrheidiol yn y gwariant ar y gyllideb yna er mwyn gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl Cymru. Diolch yn fawr.