Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Wrth sôn am y tymor hwy, rwy’n golygu mwy na dwy flynedd, ac rwy’n gwybod y byddech chithau, a dweud y gwir, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddelfrydol, yn hoffi meddwl am gyfnod hwy na dwy flynedd hefyd ond mae eich dwylo wedi'u clymu gan y fargen hon yr ydych chi wedi gorfod ei tharo. Ac mae'n ddrwg gennyf nad ydych chi'n hoffi fy ngwelliant, ond rwy’n ddilynwr Star Trek erioed felly rwy'n hoff o hollti ambell i ferfenw.