6. Dadl: Ansawdd Aer

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 5:30, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Heddiw, mae gennym ni aer glanach yng Nghymru nag yn y degawdau diwethaf, ond fel bob amser, rydym ni'n gwybod bod mwy inni ei wneud. Fy nod yw i ni fod yn arweinydd wrth ddarparu atebion arloesol ac effeithiol i fynd i'r afael â llygredd aer, gan sicrhau aer glân i bawb. Rwyf felly'n cymryd camau ar unwaith, drwy raglen waith traws-Lywodraethol gynhwysfawr, i wella ansawdd yr aer yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys datblygu a chyhoeddi cynllun aer glân ar gyfer Cymru yn 2018. Bydd y cynllun yn cynnwys gwelliannau i brosesau adrodd awdurdodau lleol ar broblemau ansawdd yr aer a'u cynlluniau i ymdrin â nhw, fframwaith parth aer glân ar gyfer Cymru i sicrhau sefydlu parthau aer glân yn gyson ac yn effeithiol gan awdurdodau lleol, lle bynnag y mae eu hangen, sefydlu canolfan asesu a monitro ansawdd yr aer genedlaethol ar gyfer Cymru, a chyflawni cyfathrebu ac ymyraethau traws-Lywodraethol parhaus i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ansawdd aer gwael.

Bydd y fframwaith parthau aer glân yn nodi ein hegwyddorion ar gyfer gweithredu parthau aer glân yng Nghymru a'n disgwyliadau o ran sut y dylid eu sefydlu a beth y dylent ei gyflawni, gyda phwyslais clir ar ganlyniadau iechyd. Parth aer glân yw ardal lle y cymerir camau gweithredu wedi'u targedu i wella ansawdd yr aer. Y nod yw lleihau pob math o lygredd aer, gan gynnwys nitrogen deuocsid a gronynnau. Mae'r parthau yn benodol i ardal, felly ni fydd yr hyn sy'n gweithio mewn un ddinas neu le o reidrwydd yn cael yr un effaith neu effeithiolrwydd mewn mannau eraill. Yn ogystal â sicrhau gweithredu cyson ac effeithiol, bydd y fframwaith yn helpu i wneud yn siŵr bod disgwyliad clir gan fusnesau ac aelodau o'r cyhoedd o beth yw parth a sut y gallai effeithio arnyn nhw.

Yn ogystal â hyn, bydd datblygu gwelliannau i drefniadau adrodd ar ansawdd aer awdurdodau lleol yn rhyddhau eu hamser i ganolbwyntio ar y camau sydd eu hangen i ymdrin â'r problemau y maen nhw'n eu nodi. Ar hyn o bryd, mae fy swyddogion yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i gynllunio a sefydlu canolfan genedlaethol i asesu a monitro ansawdd yr aer. Bydd y ganolfan yn gam pwysig i sicrhau'r wybodaeth fyw a'r dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer gwneud penderfyniadau prydlon, cydlynol ac effeithiol ar faterion ansawdd aer ar lefel leol ac ar lefel Llywodraeth genedlaethol. Bydd y ganolfan hon yn rhoi pwyslais parhaus ar sicrhau cydymffurfiad â therfynau cyfreithiol ac ardaloedd penodol lle ceir problemau, gan leihau amlygiad i lygredd yn fwy eang, a bydd yn helpu i dargedu camau gweithredu er mwyn sicrhau'r manteision mwyaf o ran iechyd a lles y cyhoedd .

Bydd fy swyddogion hefyd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws gweddill Llywodraeth Cymru i gydgynllunio a chyflwyno camau cyson wedi'u cydgysylltu'n dda i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o lygredd aer a'i effeithiau ar iechyd. Y nod fydd helpu dinasyddion i leihau eu hallyriadau a'u hamlygiad eu hunain i lygredd. Yn rhan o'r gwaith hwn, gallaf gyhoeddi heddiw ail-lansio ein gwefan Ansawdd Aer yng Nghymru yn ddiweddarach y mis hwn. Bydd y wefan ar ei newydd wedd yn cynnwys gwell gallu i ragweld ansawdd aer, adrannau newydd ar gyfer ysgolion a chyngor iechyd. Bydd cynlluniwr llwybr llygredd newydd yn cael ei ychwanegu at y wefan cyn bo hir i lywio teithio iachach ar draws canolfannau trefol.

Ym mis Gorffennaf eleni, er mwyn mynd i'r afael â llygredd aer, ymrwymodd Llywodraeth y DU i roi terfyn ar werthu pob car a fan petrol a diesel confensiynol newydd erbyn 2040. Mae hwn yn gam angenrheidiol a chadarnhaol i gyflawni ein dyheadau, ond mae 2040 yn parhau i fod ymhell i ffwrdd, felly rwyf yn gofyn i bawb yn y lle hwn ymuno gyda'i gilydd i gefnogi a galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu, gyda'n cefnogaeth a'n cydweithrediad ni, amserlenni clir ar gyfer pontio blaengar i drafnidiaeth ffyrdd di-allyriadau.

Heddiw, hoffwn dynnu sylw at waith arall sy'n cael ei wneud i gyflawni'r hyn yr hoffem ni ei weld yn ein symud ymlaen at uchelgeisiau cynllun aer glân ar gyfer aer glanach yng Nghymru. Mae rheoliadau wedi'u gosod yn y Cynulliad sy'n ei gwneud yn ofynnol i fyrddau gwasanaeth cyhoeddus ystyried adroddiadau ar gynnydd ansawdd aer gan awdurdodau lleol wrth lunio'r asesiadau llesiant lleol. Mae hyn bellach yn paratoi'r ffordd ar gyfer rhagor o waith cydweithredol ar ansawdd aer rhwng cyrff cyhoeddus. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda swyddogion iechyd yr amgylchedd ac awdurdodau lleol i gryfhau'r darpariaethau ansawdd aer a seinwedd yn 'Polisi Cynllunio Cymru', ac mae fy adran i'n sicrhau bod arian ar gael ar gyfer grant refeniw sengl i awdurdodau lleol i gefnogi camau gweithredu lleol ar ansawdd aer. Yn ogystal â hyn, bydd ein cynllun gweithredu cenedlaethol newydd ar sŵn, a fydd yn dod y flwyddyn nesaf, yn integreiddio polisïau ansawdd aer a sŵn yng Nghymru ymhellach.

Mae'n amlwg nad yw'n ddigon i ddatblygu cynllun ar gyfer ansawdd aer mewn un maes yn unig. Rwyf i'n dymuno gweld ansawdd aer yn dod yn rhan annatod o bolisïau cynllunio, seilwaith, trafnidiaeth, teithio llesol ac iechyd y cyhoedd. Mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael o bob cyfeiriad, o'r cynlluniau cenedlaethol a lleol a chamau trafnidiaeth i gynllunio trefol a phlannu coed a gwrychoedd mewn modd sydd wedi'i gynllunio'n dda. Fe allwn ni, wrth gwrs, geisio cryfhau'r mesurau deddfwriaethol a rheoliadol, ac rwy'n hollol barod i archwilio achosion cryf dros wneud hynny. Gellir priodoli rhan fawr o'r her a wynebwn gydag ansawdd ein haer i allyriadau trafnidiaeth, ond mae rhai mathau o gynhyrchu ynni a phrosesau diwydiannol, ffermio ac arferion busnes eraill, a rhai o'r ffyrdd y mae pobl yn eu defnyddio i wresogi eu cartrefi, i gyd yn ffactorau cyfrannol. Mae'r rhain i gyd yn feysydd y mae angen mynd i'r afael â nhw drwy ymdrech ar y cyd ar draws y Llywodraeth gan ddefnyddio'r holl arfau sydd gennym.

Mae llygredd aer yn aml iawn yn tarddu o'r un gweithgareddau ag sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Felly, mae'n rhaid i'n hymdrechion fynd i'r afael â'r ddau fod wedi'u hintegreiddio'n llwyr, ac felly bydd datgarboneiddio yn gysylltiedig â chynhyrchu pŵer a diwydiannau mawr yn chwarae rhan allweddol wrth gyfrannu at aer glanach yng Nghymru. Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom ni yng Nghymru i weithredu ac i helpu i wneud gwelliannau gwirioneddol a pharhaol i ansawdd yr aer yr ydym ni i gyd yn ei anadlu. Gydag ewyllys ac ymrwymiad gwirioneddol i weithio gyda'n gilydd, gallwn wireddu'r gwelliannau hyn a'r cyfleoedd y maen nhw'n eu darparu ar gyfer Cymru iachach, mwy llewyrchus a mwy cyfartal. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau y prynhawn yma ynghylch ble'r ydym ni, ble dylem ni fod yn mynd, a beth arall y bydden nhw'n hoffi eu gweld o ran ansawdd aer yn ystod gweddill y tymor hwn. Diolch yn fawr.