6. Dadl: Ansawdd Aer

Part of the debate – Senedd Cymru ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Gwelliant 1 Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i drin llygredd aer fel mater iechyd y cyhoedd.  

Gwelliant 2 Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar lygredd aer.

Gwelliant 3 Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i fyrddau iechyd lleol ar hysbysu trigolion ynghylch lefelau llygredd aer.

Gwelliant 4 Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ar sut y dylid monitro ansawdd aer y tu allan i ysgolion ac ar lwybrau teithio llesol.

Gwelliant 6 Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen i ddatgarboneiddio'r sector trafnidiaeth ac yn croesawu'r ddarpariaeth o £2 miliwn tuag at drydanu cerbydau trydan o ganlyniad i'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar y gyllideb.