Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Diolch, Lywydd. Un rhan fawr o'r ansicrwydd cyffredinol sy'n ein hwynebu o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yw ein perthynas yn y dyfodol â Banc Buddsoddi Ewrop. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, ychydig wythnosau yn ôl, roedd Llywodraeth Prydain yn awyddus i gynnal rhyw fath o berthynas â'r banc wedi i ni ymadael, ond roeddent ychydig yn brin o fanylion, gadewch i ni ddweud. Tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr hyn y cred yw nod Llywodraeth Prydain o ran y berthynas yn y dyfodol gyda Banc Buddsoddi Ewrop, yn enwedig o ystyried bod Cymru wedi elwa, yn ôl yr hyn a ddeallaf, o oddeutu £2 biliwn o fuddsoddiad gan y banc.