Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Lywydd, yr hyn a glywaf yr Aelod yn ei disgrifio yw ras gystadleuol i'r gwaelod, lle mae pawb yn credu mai'r unig ffordd i gael mantais gystadleuol dros rhywun arall yw cymryd hyd yn oed llai o dreth gan fusnesau er mwyn talu am wasanaethau cyhoeddus. Rwy'n ddiolchgar iddo am ddisgrifio'r tabl cynghrair digalon hwnnw, gan ei fod yn dangos yn union pam nad wyf yn credu fod hynny'n beth synhwyrol i ni ei wneud.