Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych wedi cael sawl cwestiwn bellach heddiw ynglŷn â chaffael. Os caf ddefnyddio fy nghwestiwn olaf i'ch holi ynglŷn â'r dreth trafodiadau tir, ond nid o ran y dreth trafodiadau tir preswyl, a grybwyllwyd gennych ddoe a'r newidiadau yn hynny o beth, ond o ran y dreth trafodiadau tir masnachol, a wyf yn iawn i feddwl, o fis Ebrill, y bydd busnesau sy'n werth mwy nag £1 filiwn yn wynebu cyfraddau o 6 y cant, o gymharu â 5 y cant, rwy'n credu, dros y ffin—yn sicr, cyfraddau is mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig? A pha asesiad a wnaethoch o'r effaith a gaiff hynny ar drafodiadau busnes masnachol yng Nghymru, ac a ydych yn ffyddiog na fydd yn creu annhegwch, lle bydd busnesau yma yn ei chael hi'n anos cystadlu na busnesau dros y ffin?