Bargen Dinesig Bae Abertawe

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 6 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:12, 6 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn rhoi pwyslais o'r newydd ar dyfu economi sy'n cael ei sbarduno gan ddata ac ar ehangu ymchwil a datblygu mewn perthynas â deallusrwydd artiffisial. Mae bwrdd dinas-ranbarth bae Abertawe hefyd yn canolbwyntio ar yr economi ddigidol, a dylent fod mewn sefyllfa ddelfrydol i ysgogi'r buddsoddiad ychwanegol yn nhechnolegau'r dyfodol. Y rhwystr mwyaf sy'n wynebu'r rhanbarth yw dod o hyd i ddigon o bobl â'r sgiliau angenrheidiol i ddatblygu'r technolegau newydd hyn. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i gynyddu buddsoddiad mewn datblygu'r sylfaen sgiliau angenrheidiol yn fy rhanbarth?