Pwerau Trethiant

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 6 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:16, 6 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, dengys y llyfr The Spirit Level a llawer iawn o dystiolaeth arall fod gan bob un ohonom lawer i'w elwa o gymdeithas fwy cyfartal ym mhob ffordd. Dywedodd Sefydliad Joseph Rowntree yr wythnos hon fod 400,000 yn rhagor o blant a 300,000 yn rhagor o bensiynwyr yn byw mewn tlodi yn y DU erbyn hyn nag a oedd yn 2012-13. Mae'r Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant wedi ymddiswyddo yn un fflyd mewn protest, yn rhannol o leiaf, yn erbyn y bwlch rhwng y rhethreg a gweithredu a gwaith go iawn gan Lywodraeth y DU. Wrth inni aros am Lywodraeth Lafur ar gyfer y DU fel y gallwn greu Teyrnas Unedig fwy cyfartal, a allwch ddweud wrthym heddiw pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, pan fydd ganddi ei phwerau cyllidol newydd, i gyflwyno elfen fwy blaengar mewn perthynas â threthiant yng Nghymru, a gwlad fwy cyfartal?