Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Diolch, Lywydd. Arweinydd y tŷ, rwyf wedi sôn am fannau golchi ceir sawl gwaith yn y Siambr hon, ond nid wyf yn ymddiheuro am godi'r mater eto. Cyhyd ag y bo pobl yn cael eu hecsbloetio yn y modd hwn a Llywodraeth Cymru yn claddu eu pennau yn y tywod mewn perthynas â'r mater hwn, byddaf yn parhau i bwyso am weithredu. Felly, a wnaiff arweinydd y tŷ amlinellu unrhyw gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i roi terfyn ar y pla hwn yn ein cymdeithas?