Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Wel, rwy'n croesawu'r ymyrraeth fach honno, Weinidog, ond mae'n rhaid i mi ddweud, dywedodd Dawn Frazer o'r Car Wash Advisory Service fod popeth gwael y gallwch feddwl amdano ar gyfer llafurlu Prydain i'w weld mewn mannau golchi ceir—caethwasiaeth, cyflogau isel, caethwasiaeth dyled, efadu trethi a hyd yn oed camfanteisio'n rhywiol ar ferched ifanc. Felly, prin y gellir dweud bod edrych ar un agwedd ar gyflogau isel yn unig yn gyfystyr â mynd i'r afael â'r broblem hon yn y ffordd y dylid ei wneud.