Sipsiwn a Theithwyr

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 6 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:21, 6 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch Lywydd. Saib ddisgwylgar; roeddwn ychydig yn bryderus yn y fan honno, ond diolch yn fawr iawn.

Mae'r gwasanaeth Teithio Ymlaen, sy'n cefnogi cymdeithas preswylwyr safle Sipsiwn a Theithwyr Back Bangor Lane yng Nghonwy, wedi cysylltu â mi i fynegi pryder fod y preswylwyr yn dioddef effeithiau corfforol a seicolegol o ganlyniad i lefelau sŵn yr A55 gerllaw. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, er bod adroddiadau technegol wedi nodi y byddai ailosod wyneb yr A55 yn helpu i liniaru hyn, ymatebodd Llywodraeth Cymru y byddent ond yn ystyried y gwaith o gynnal a chadw'r rhan hon o'r ffordd fel rhan o'r rhaglen flynyddol i flaenoriaethu gwaith. A allwch chi, drwy eich cyfrifoldebau a'ch briff, edrych ar hyn gan ystyried yr anobaith cyffredinol y mae'r gymuned yn ei deimlo a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar eu hiechyd, ac yn eu barn hwy, ar eu hawliau hefyd?