Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n galed i gynhyrchu'r canllawiau hyn. Fodd bynnag, pan ymwelais â Sir Benfro yr wythnos diwethaf gyda'r grŵp trawsbleidiol, mynegwyd llawer o bryder gan y Sipsiwn a'r Teithwyr a fynychodd y cyfarfod ynglŷn â darpariaeth iechyd, ac yn benodol, ynglŷn â chael mynediad at feddygon teulu, a cholli ymwelydd iechyd penodedig a arferai gael eu cyflogi gan y Prosiect Undod i ymweld yn benodol â safleoedd. Felly, roedd yn bryder cyffredinol ynglŷn ag iechyd, felly tybed pa mor effeithiol oedd y canllawiau hyn mewn gwirionedd.