Cydlyniant Cymunedol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 6 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:40, 6 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Arweinydd y tŷ, un ffordd o ddatblygu cydlyniant cymunedol yw mynd i'r afael ag unigrwydd mewn cymunedau gwledig. Yn ddi-os byddwch yn gwybod am yr Ymgyrch Atal Unigrwydd, sydd, yn anffodus, yn dangos bod naw o bob 10 o bobl yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yn credu bod unigrwydd ymhlith pobl hŷn yn fwy tebygol yn awr nag erioed. Yng ngoleuni'r ystadegyn difrifol hwn, pa gyllid penodol a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru i gymunedau yn benodol ar gyfer trechu unigrwydd a datblygu cydlyniant cymunedol? A wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi dadansoddiad o ble y dyrannwyd yr arian hwnnw?