Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae adroddiad y pwyllgor yn dangos cryn ddiddordeb yng Nghasnewydd, sydd, yn amlwg, yn un o'r dinasoedd ac un o'r ardaloedd mwy amrywiol yn ethnig yng Nghymru, ond hefyd ceir ardaloedd eraill tebyg yng Nghymru o ran hynny. Felly, mae cryn ddiddordeb allan yno ac mae'n dda gwybod bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Tybed a allech chi ddweud mwy ynglŷn â sut yr ymdrinnir â'r materion a nodwyd yn adroddiad y pwyllgor, a sut y mae'n debygol yr ymdrinnir â hwy, ac mewn perthynas â'r cynllun cyflawni ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid, pa bryd y mae'r cynllun diwygiedig yn debygol o gael ei gyhoeddi.