Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Gwnaf. Ceir ymdeimlad cryf o barch a goddefgarwch yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, gyda lefelau isel o droseddau casineb, ac ymateb cymunedol da iawn i raglen adsefydlu Syria. Lle mae tensiynau'n bodoli, rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol a chymunedau, i'w lleihau cymaint â phosibl.