Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Arweinydd y tŷ, mae'n bosibl fod llawer o geiswyr lloches a ffoaduriaid yn meddu ar sgiliau a fyddai'n werthfawr i economi Cymru, ond maent yn cael eu rhwystro gan eu hanallu, neu eu gallu cyfyngedig, i siarad Saesneg. Roedd Llywodraeth Cymru, yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor, yn cydnabod pwysigrwydd cyrsiau Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill. Felly, a gaf fi ofyn pa gynnydd a wnaed ar ddiweddaru'r polisi Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill gogyfer â Chymru erbyn mis Mawrth 2018 i sicrhau bod darpariaeth y cyrsiau hyn yn ddigonol i ateb y galw yng Nghymru, ac yn enwedig de-ddwyrain Cymru?