Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Gallaf gadarnhau'r ddau ddyddiad: mis Hydref 2018 a'r un yn 2019. Ac rydym wedi gofyn am hynny oherwydd bod Llywodraeth Cymru a swyddogion yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yn ôl yn 2017—yn ystod taith Bil Cymru drwy'r Senedd, cafwyd cytundeb na fyddai'r pwerau gweithredol newydd yn dechrau ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Felly, fel y dywedaf, dyna oedd y cytundeb a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol nes i Swyddfa Cymru ymyrryd.