Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Diolch i David Melding am y cynnig deddfwriaethol gan Aelod heddiw. Mae'r syniadau hyn ynglŷn â chynyddu cyfranogiad dinasyddion yn ennyn fy chwilfrydedd. Wrth gwrs, mae'n nod canmoladwy, ond nid wyf yn siŵr pa mor hawdd y caiff ei gyflawni'n ymarferol. Yn fyr, nid wyf yn sicr fod y cynllun hwn, er ei fod yn arloesol, yn un ymarferol mewn gwirionedd.
Y gwahaniaeth rhyngom ni yn y Siambr hon a'r cyhoedd yn gyffredinol yw ein bod ni, credwch neu beidio, yn wleidyddion proffesiynol. Gwn fod hynny'n ymddangos yn anodd ei gredu ar adegau, pan fydd pawb ohonom yn gweiddi ar draws y Siambr ar ein gilydd, ond ni yw'r gweithwyr proffesiynol mewn gwirionedd. Hynny yw, cawn ein talu i fod yma y rhan fwyaf o wythnosau. Rydym yn aelodau o bwyllgorau, rydym yn gwrando ar dystiolaeth, rydym wedi talu staff i'n helpu i ymchwilio i bethau. Nawr, nid yw hynny'n dweud bod gennym unrhyw allu cynhenid i wneud gwleidyddiaeth yn well na'r cyhoedd yn gyffredinol, ond rydym yn gwneud y gwaith hwn wythnos ar ôl wythnos, yn rhan o strwythur a fydd yn caniatáu rhywfaint o arbenigedd i ni—rwy'n pwysleisio, 'rhywfaint'.
Y broblem gydag ennyn diddordeb y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd yw nad oes gan lawer o bobl ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth. Mae gan eraill ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth hyd at bwynt, ond mewn cyfrannau cymharol fach yn unig. Efallai nad yw'r syniad o gymryd rhan mewn dadleuon a drefnwyd, mewn gwaith craffu gan bwyllgor ac yn y blaen, mor ddeniadol â hynny, hyd yn oed i'r rhan o'r etholaeth sy'n cymryd rhywfaint o ran ac yn dilyn gwleidyddiaeth i ryw raddau. Wrth gwrs, gallwn roi cynnig arni, mae'r rhain yn syniadau diddorol, ond rwy'n wfftio braidd at yr elfen o orfodaeth, y syniad o bobl yn cael eu galw i wneud gwasanaeth dinasyddion, ac yn meddwl tybed a allai'r posibilrwydd hwnnw droi llawer o bobl yn erbyn gwleidyddiaeth yn llwyr, hyd yn oed y bobl sy'n cymryd rhywfaint o ran mewn gwleidyddiaeth yn awr.
Efallai bod angen inni edrych ar rai o'r ystadegau sydd ar gael i nodi brwdfrydedd y cyhoedd yng Nghymru ynglŷn â'r Cynulliad. Nifer y rhai a bleidleisiodd yn etholiadau'r Cynulliad: tua 45 y cant. Mae hwnnw'n ystadegyn sy'n gyfarwydd ac ar gael yn rhwydd. Ceir ffigurau eraill y gallem eu harchwilio. Er enghraifft, beth yw'r ffigurau gwylio cyfartalog ar gyfer darllediadau BBC Wales o'r cwestiynau i'r Prif Weinidog? Beth yw'r ffigurau perthnasol ar gyfer darllediadau Senedd.tv o fusnes y Siambr a phwyllgorau'r Cynulliad? Credaf fod y darllediadau hyn yn wasanaeth cyhoeddus gwerthfawr, ond mae arnaf ofn fod lefelau defnydd ymhlith y cyhoedd yng Nghymru yn debygol o fod yn eithaf isel. Pan edrychaf ar yr oriel yma ac yn yr ystafelloedd pwyllgora, y rhan fwyaf o'r amser maent bron yn wag.
Mae rhai pobl yn cymryd rhan o bryd i'w gilydd, fel arfer pan fyddant yn ystyried bod eu hardaloedd lleol o dan ryw fath o fygythiad. Ar yr adegau hyn, mae ymgyrchoedd yn dechrau a deisebau'n cael eu cychwyn, ac mae hyn oll yn dda; rydym i gyd o blaid ymgyrchoedd lleol yn UKIP. Yn wir, ers peth amser, ein polisi yw caniatáu refferenda lleol sy'n rhwymo'n gyfreithiol ar faterion cynllunio o bwys sy'n effeithio ar ardal benodol. Dyma lle y gellid meithrin ymgysylltiad gwleidyddol yn effeithiol, drwy ddangos y bydd deddfwyr yn ystyried dymuniadau trigolion lleol. Ond mae'r syniad o ddinasyddion yn ffurfio Siambr ar wahân mewn Cynulliad ehangach—rhaid i mi gyfaddef, rwy'n teimlo bod y syniad yn mynd braidd yn rhy bell ac mae arnaf ofn, ymhell o fod yn ennyn brwdfrydedd mwy o bobl, gallai fethu yn ei nod mewn gwirionedd a throi mwy o bobl yn erbyn gwleidyddiaeth.
Felly, er y credaf fod y rhain yn syniadau diddorol iawn, rwy'n meddwl bod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn yn y ffordd y symudwn ymlaen i geisio eu cymhwyso mewn ffordd ymarferol. Felly, credaf fod angen inni droedio'n ofalus yma.