6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 6 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:47, 6 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Un diffiniad bras o ddemocratiaeth gyfranogol fyddai un lle mae dinasyddion yn cymryd mwy o gyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau. Ni fyddai hyn yn lleihau'r angen am sefydliadau cynrychioliadol, na Llywodraeth ganolog yn sicr—nid ydym yn anelu'n nôl tuag at Athen—ond byddai'n golygu bod cyfranogiad y cyhoedd yn llawer mwy nag etholiadau cyfnodol. Wrth arsylwi ar deimladau'r cyhoedd ar y diwrnod pleidleisio, mae'r rhan fwyaf yn cael eu taro gan y cywair dwys; nid yw'n amser carnifal. Y gronfa hon o ddiben sydd angen inni fanteisio arni: cyfranogiad a dinasyddiaeth weithredol yn adnewyddu ein sefydliadau democrataidd.

Yng Nghymru, gallem fynd ymhellach a ffurfio siambr dinasyddion yn y Cynulliad. Ni fyddai'n galw am 60 o aelodau o'r cyhoedd i wasanaethu'n amser llawn am bum mlynedd—byddai hynny'n faich ac nid yn weithred o wasanaeth dinasyddion. [Chwerthin.] Dylai gwasanaeth dinasyddion fod yn rhwymedigaeth gyffredinol y gelwir amdani o bryd i'w gilydd fel y gelwir am wasanaeth rheithgor yn awr. Gallai siambr dinasyddion fod yn gronfa o 600 neu hyd yn oed 6,000 o ddinasyddion, y gewir arnynt o bryd i'w gilydd. Byddai gorchwylion penodol sy'n eu diddori yn cael eu dynodi ar gyfer pob dinesydd a gallent ganolbwyntio ar ran benodol o weithgarwch llywodraethol ac yna, pan fydd y maes hwnnw'n cael ei drafod, byddent yn cyfarfod fel rhan o'r Cynulliad.

Gallai siambr dinasyddion arwain hefyd at ddatblygu democratiaeth ddigidol. Drwy arolygon ar-lein a mecanweithiau eraill, byddai amrywiaeth ehangach o gyfranogiad cyhoeddus yn bosibl, gan ddarparu deunydd efallai i siambr dinasyddion ei drafod a'i ddatblygu'n fwy manwl. Byddai angen i waith o'r fath fod yn dryloyw a'r prif ganlyniadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'u cofnodi'n gywir. Gellid bwydo deddfau drafft, neu syniadau ar gyfer deddfau, i mewn i'r Cynulliad Cenedlaethol, a byddai'n dod yn sefydliad dwy siambr wedyn ar ffurf fodern iawn. Anghofiwch Dŷ'r Arglwyddi; gallem wneud rhywbeth gwirioneddol wych â dinasyddion fel ein haelodau. Wrth gwrs, ceir modelau eraill o gynulliadau dinasyddion, ond yr hyn sy'n amlwg yw'r angen am yr ymgysylltiad eang hwn os ydym i greu cwlwm democrataidd newydd rhwng y dinesydd a'r gwleidydd.

Mae angen i ddemocratiaeth dreiddio'n ddwfn hefyd a phwyso ar y cryfder sydd gennym yng ngwreiddiau cymunedau. Unwaith eto, mae'r chwyldro digidol yn cynnig cyfleoedd i rwydweithiau lleol gyfranogi, trafod a gwneud penderfyniadau. Mae cynghorau tref a chymuned mewn sefyllfa dda i ddatblygu eu rôl fel llais y gymuned. Gallai cynghorau tref mwy o faint ystyried sefydlu swydd maer etholedig. Gellid llunio'r cynghorau eu hunain o gynghorwyr a etholir yn uniongyrchol a dinasyddion a ddewiswyd ar hap, i wasanaethu am dymor fel rhan o'u hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus. Byddai grymuso'r lefel fwyaf lleol o ddemocratiaeth hefyd yn helpu i adnewyddu cynghorau lleol yn gyffredinol. Gallai asiantaethau cyhoeddus eraill, megis Ymddiriedolaethau'r GIG, ddefnyddio'r ffynhonnell hon o gyfranogiad cyhoeddus hefyd.

Ddirprwy Lywydd, roedd democratiaeth gynrychioliadol yn ffynnu ar y cyffro o ethol arweinwyr y gymdeithas; roedd yn drawsnewid aruthrol oddi wrth Lywodraeth aristocrataidd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond roedd hefyd yn gwneud pobl yn sofran am ddiwrnod yn unig ac yn cyfyngu ar y cyfleoedd i allu cyfranogi'n ddyfnach. Gallai awydd i adfer rheolaeth ddangos bod dinasyddion yn barod i ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau.

Nid yw hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o bobl eisiau dod yn wleidyddion rhan-amser, ond mae'n golygu y gallwn archwilio'r cysyniad o wasanaeth dinasyddion ar y sail bod gwasanaeth rheithgor yn sylfaen i'n system gyfreithiol. Ni ddylem orliwio'r ymrwymiad amser sy'n gysylltiedig â gwasanaethu. Byddai'n amrywio o amser llawn am gyfnod byr—rheithgor dinasyddion ar ddatblygiad amwynder lleol, er enghraifft—i ran-amser am gyfnod hwy—diwrnod y mis am ddwy flynedd neu fwy yng nghynulliad y dinasyddion, efallai.

Ni fyddwn yn byw mewn democratiaeth gyfranogol hyd nes y bydd ymgysylltiad dinasyddion yn canolbwyntio ar wneud penderfyniadau lawn cymaint â chasglu barn y cyhoedd drwy brosesau ymgynghori traddodiadol. Yng Nghymru, mae gennym gyfle i arwain y ffordd. Rydym yn mwynhau manteision democratiaeth sy'n newydd ac yn fach. Os gallwn arloesi, gellid chwyddo pŵer y traddodiad seneddol rydym wedi ei etifeddu gan rym dinasyddiaeth weithgar. Ochr yn ochr â rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, gallem weld cyhoeddi rhaglen gwerin i'w thrafod yn siambr dinasyddion y Cynulliad Cenedlaethol.

Ddirprwy Lywydd, nid yw democratiaeth yn sâl ac yn dila, ond mae angen ei hadnewyddu. Heddiw, y weithred fwyaf o arweinyddiaeth wleidyddol fyddai gwella egni dinasyddiaeth. Dyma ddiben fy mil.