Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Diolch. Lluniwyd credyd cynhwysol i helpu pobl i gael gwaith a chefnogi pobl sydd angen help neu bobl na all weithio. Mae'n disodli system a oedd yn anghymell pobl rhag gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos, a gwelodd bron 1.5 miliwn o bobl wedi'u caethiwo ar fudd-daliadau i'r di-waith am bron i ddegawd. Yn wahanol i'r modd trychinebus y cyflwynwyd credydau treth, a olygodd fod miliynau o bobl wedi wynebu adfachiadau yn sgil gordaliadau o £7.3 biliwn, mae credyd cynhwysol yn cael ei gyflwyno'n raddol. Mae pobl yn cael gwaith yn gyflymach ac yn aros mewn gwaith yn hwy. Nid oes ond chwe wythnos yn unig, fel y clywsom, ers dadl ddiwethaf Plaid Cymru ar y credyd cynhwysol lle y nodais fy mod wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ynghylch taliadau llinell gymorth y credyd cynhwysol cyn ei gyhoeddiad eu bod yn cael eu dileu, a bod ASau ar y meinciau cefn Ceidwadol yn gwneud eu gwaith democrataidd drwy alw am ostyngiad yn yr amser aros o chwe wythnos am daliadau credyd cynhwysol.
Pan ymwelais â rheolwr ardal newydd y Ganolfan Byd Gwaith ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru a staff eu swyddfa yn yr Wyddgrug yn ddiweddar, roeddent yn dweud wrthyf y gallant bellach ganolbwyntio ar anghenion yr hawlydd, ac yn lle treulio eu dyddiau'n helpu pobl i lenwi ffurflenni hir wrth iddynt ddod oddi ar, ac yna'n ôl ar lwfans ceisio gwaith, ac ymdrin ag ymholiadau ynglŷn ag oedi taliadau, bellach gallant ganolbwyntio ar hyfforddi pobl ynglŷn â sut i ddod o hyd i waith ychwanegol a dod yn annibynnol yn ariannol. Hefyd roeddent yn dweud wrthyf am y cymorth cyllidebu personol y maent yn ei ddarparu ac am y taliadau ymlaen llaw sydd ar gael, er nad oedd llawer wedi manteisio ar y rhain hyd yma yn ôl yr hyn roeddent yn ei ddweud wrthyf.
Rwy'n annog pob aelod i ymweld â swyddfa Canolfan Byd Gwaith yn eu hardal eu hunain. Nododd Pwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin ar Waith a Phensiynau yn 2012:
Mae'r egwyddorion sy'n sail i'r credyd cynhwysol yn cael eu cefnogi'n eang, ac rydym yn rhannu'r gefnogaeth honno.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau'r wrthblaid Lafur dair blynedd yn ôl:
Mae Llafur yn cefnogi'r egwyddor o gredyd cynhwysol.
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr i'r papur ymgynghorol ar lesiant yn yr unfed ganrif ar hugain yn cytuno â'r angen i ddiwygio'n sylfaenol a'r egwyddorion sy'n sail i'r credyd cynhwysol. Felly, rwy'n cynnig gwelliant 1, gan nodi bod cefnogaeth eang i'r egwyddor sy'n sail i'r credyd cynhwysol.
Yn hytrach na'i ddileu, roedd maniffesto'r Blaid Lafur ar gyfer y DU yn 2017 yn dweud, ac rwy'n dyfynnu:
Bydd Llafur yn diwygio ac yn ailgynllunio'r credyd cynhwysol, gan roi diwedd ar y cyfnodau o chwe wythnos o oedi cyn talu.
Ac yn y cyd-destun hwn, mae gwelliant 1 hefyd yn croesawu'r pecyn eang a gyhoeddwyd yng nghyllideb Llywodraeth y DU i ymdrin â phryderon ynghylch y pontio i gredyd cynhwysol. Mae'r pecyn hwn sy'n werth £1.5 biliwn, ac sy'n lleihau'r amser y bydd yn rhaid i hawlydd aros am eu taliad cyntaf i bum wythnos, gryn dipyn yn fwy hael mewn gwirionedd na lleihau'r taliad i un mis, a byddaf yn datblygu hynny.