9. Dadl Plaid Cymru: Credyd cynhwysol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 6 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:38, 6 Rhagfyr 2017

Mae safbwynt Plaid Cymru ar y mater yma yn glir: er mwyn amddiffyn ein dinasyddion rhag gweithredoedd y Ceidwadwyr ar eu gwaethaf, mae'n rhaid dechrau datganoli gweinyddiaeth y system les i Gymru. Mi fedrwn ni wedyn roi terfyn ar y diwylliant o oedi a chosbi, a hefyd sicrhau mai unigolion nid cartrefi sydd yn derbyn taliadau, er mwyn sicrhau na fydd y system newydd yn cael effaith anghymesur ar ferched. 

Rydym yn awgrymu dechrau drwy ddatganoli'r gweinyddu a fyddai'n ein galluogi ni yng Nghymru i fod yn fwy hyblyg efo taliadau ac i amrywio'r dull o dalu'r elfen dai. Mae hyn eisoes yn digwydd yn yr Alban. Yno, mae Llywodraeth yr SNP wedi newid amlder y taliadau o rai misol i rai bob pythefnos. Ac yn yr Alban mae'r elfennau tai yn cael eu talu'n uniongyrchol i landlordiaid yn ôl dymuniad y tenant.

Gadewch inni droi at fater y gost. Mae'r Alban wedi negodi fframwaith cyllidol efo San Steffan, sy'n golygu bod yr arian ar gyfer gweinyddu rhai elfennau o gredyd cynhwysol yn cael ei drosglwyddo i'r Alban fel rhan o'r grant bloc. Yn fy marn i, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r gost fel esgus i beidio â gweithredu ar y mater yma. Fe wnaf i ei egluro fo mewn ffordd arall, jest i wneud yn hollol glir bod pawb yn deall: nid yw gweinyddu lles yn costio dim byd i Lywodraeth yr Alban oherwydd fe addaswyd y grant bloc yn yr Alban fel bod swm ychwanegol ar gael i'r Alban ar gyfer y costau gweinyddol, gan gynnwys unrhyw gostau cychwynnol hefyd, gyda llaw. Mae Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i drefnu fframwaith tebyg i'r hynny a negodwyd yn yr Alban, ac rydw i'n methu â deall pam na fyddai'r Llywodraeth yn dymuno rhoi cychwyn ar y negodi hynny. Mae'r Blaid Lafur Brydeinig wedi bod yn galw ar y Llywodraeth i wneud newidiadau i'r polisi credyd cynhwysol; mae Aelodau Cynulliad y Blaid Lafur yn aml yn sefyll yn y Siambr yma yn condemnio’r polisi.

Felly, rydw i'n cynnig i chi ffordd bragmataidd hollol o fynd i'r afael â'r broblem yma, ac rydw i'n estyn cynnig i chi fel Llywodraeth i wneud rhywbeth i newid rhai o agweddau gwaethaf credyd cynhwysol. Mi fyddai hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr gan y bobl sydd yn cael eu heffeithio ganddo fo, ac mi fyddai hynny hefyd yn dangos gwerth datganoli ac yn dangos gwerth ein Senedd genedlaethol ni o fedru cyflwyno syniadau amgen a ffordd decach o wneud pethau er budd ein dinasyddion ni a'n cymunedau.