Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Dadansoddiad—. Wel, mae gennym ein cyfrifoldebau ein hunain yma sydd wedi'u datganoli i ni yn Llywodraeth Cymru. Hefyd dengys dadansoddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid y bydd aelwydydd yng Nghymru yn colli 1.6 y cant o'u hincwm net ar gyfartaledd, neu oddeutu £460 y flwyddyn, o ganlyniad i ddiwygiadau treth a budd-daliadau Llywodraeth y DU a gyflwynir rhwng 2015-16 a 2019-20. Mae hyn yn cyfateb i tua £600 miliwn y flwyddyn i Gymru gyfan.
Gwyddom y bydd aelwydydd incwm is ac yn arbennig y rhai â phlant yn colli cryn dipyn yn fwy ar gyfartaledd—tua 12 y cant o incwm net. Caiff teuluoedd mawr eu taro'n arbennig o galed, gan golli oddeutu £7,750 flwyddyn neu 20 y cant o'u hincwm net ar gyfartaledd. Felly, rwy'n pryderu'n fawr am yr effaith ddinistriol y mae credyd cynhwysol yn ei chael ar ein pobl fwyaf agored i niwed.
Er y gallai cyplau â phlant lle mae un o'r ddau'n ennill cyflog fod ar eu hennill, dengys y dadansoddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid fod rhieni sengl a chyplau lle mae'r ddau'n ennill cyflog yn debygol o fod ar eu colled. Felly, nid yw honiad Llywodraeth y DU y bydd credyd cynhwysol yn annog pobl i gael gwaith ac yn gwneud i waith dalu yn gwneud synnwyr, oherwydd mae'n gwanhau'r cymhelliad i'r ddau riant weithio ac mae'n gwanhau'r cymhelliad i rieni sengl gael gwaith. Yn anffodus, fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU i'w gweld yn benderfynol o anwybyddu'r ffeithiau hyn ac yn parhau i ddadlau bod credyd cynhwysol yn sicrhau bod gwaith yn talu bob amser.
Yn syth ar ôl dod i'r swydd hon, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, i nodi ein pryderon a barn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a gafodd ei mynegi yn ystod y ddadl flaenorol a gawsom ar y pwnc hwn. Gelwais arno i wrthdroi toriadau niweidiol Llywodraeth y DU i'r system les, i roi terfyn ar gyflwyno credyd cynhwysol a mynd i'r afael â'r pryderon sylfaenol sy'n cael eu gwyntyllu mewn perthynas ag ef. Fel rhan o'i ymateb i mi yr wythnos diwethaf, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod tua 80 y cant o hawlwyr y credyd cynhwysol newydd yn cael eu talu'n llawn ac ar amser, ond hyd yn oed os yw hynny'n wir, rhaid i mi ofyn: beth am yr 20 y cant arall? Mae methiant ar y raddfa hon yn golygu bod hawlwyr yn gorfod chwilio am gymorth brys o fanciau bwyd, gyda llawer yn ei chael hi'n anodd ymdopi gyda chymhlethdodau'r budd-dal newydd hwn.
O blith yr hawlwyr credyd cynhwysol newydd sy'n chwilio am gymorth hanfodol gyda'u costau tai, yr hyn sy'n peri pryder enfawr i mi yw na fydd llawer ohonynt yn gallu talu eu rhent cyntaf i'w landlord hyd nes y byddant yn derbyn eu taliad cyntaf. Ac mae awdurdodau lleol lle mae gwasanaeth llawn y credyd cynhwysol eisoes ar waith yn dweud wrthym eu bod yn gweld cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent i nifer o denantiaid. Mae hyn yn achosi neu'n gwaethygu problemau dyled i'r rhai sydd fwyaf o angen cymorth, ac mae iddo ganlyniadau difrifol i'r bobl a allai wynebu cael eu troi allan o ganlyniad i beidio â bod ag arian i dalu eu rhent.
Siaradais â'r Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth ar ddiwrnod datganiad yr hydref. Dywedodd wrthyf fod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyflwyno rhagdaliadau ar gyfer hawlwyr newydd y credyd cynhwysol sy'n aros am eu taliad cyntaf. Dywed yr Adran Gwaith a Phensiynau y gwneir y taliad hwn o fewn pum diwrnod gwaith i wneud y cais ac ar yr un diwrnod i unrhyw un sydd mewn angen brys. Fel y dywedais wrth y Gweinidog, rwy'n dweud bod angen iddynt fynd ymhellach o lawer i fynd i'r afael â'r problemau. Nid wyf yn ystyried bod ateb yr Adran Gwaith a Phensiynau o gynnig benthyciad yn gynaliadwy fel ateb parhaol i hawlwyr a fydd yn aml mewn dyled eisoes. Nid oes neb yn honni bod cyfraddau budd-daliadau yn hael, felly dywedwch wrthyf: sut y disgwylir i hawliwr fyw ar un rhan ar ddeg o ddeuddeg o'r budd-dal hwnnw am flwyddyn gyfan tra bo'r rhagdal gwreiddiol yn cael ei ad-dalu?
Ysgrifennais at y Gweinidog Cyflogaeth yr wythnos diwethaf i ofyn am sicrwydd y byddai hawlwyr y credyd cynhwysol yn gallu derbyn taliadau dros gyfnod y Nadolig. Mae swyddogion yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud wrth fy swyddogion fod gweithdrefnau cadarn ar waith i sicrhau bod pob taliad i hawlwyr sy'n ddyledus erbyn 21 a 22 Rhagfyr yn cael ei dalu, ac rwy'n mawr obeithio y caiff y sicrwydd hwn ei wireddu'n ymarferol, ond rhaid i mi ddweud nad yw ein profiad hyd yn hyn o'r modd y mae Llywodraeth y DU yn darparu credyd cynhwysol a budd-daliadau lles eraill yn rhoi llawer iawn o hyder i mi.
Mae'r rhwydwaith cyngor cenedlaethol ar gyfer Cymru'n gweithio'n agos gyda ni a phartneriaid allweddol eraill i sicrhau y gall gwasanaethau cynghori helpu hawlwyr drwy gymhlethdodau'r credyd cynhwysol. Rhaid i'r Adran Gwaith a Phensiynau gydnabod bod llawer o'r hawlwyr eisiau ac angen dewis pa mor aml y cânt eu taliadau. Byddaf yn pwysleisio wrth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau y dylai'r dewis fod ar gael yn gyffredinol i holl hawlwyr y credyd cynhwysol drwy drefniadau talu amgen yr Adran Gwaith a Phensiynau. Nid wyf yn credu y byddai angen yr un trefniadau gweinyddol â'r Alban er mwyn cyflawni hyn.
Mae tystiolaeth a gyflwynwyd yn ddiweddar i'r pwyllgor gwaith a phensiynau'n dynodi bod anfanteision gwirioneddol o ran yr hyblygrwydd a gynigir i hawlwyr yn yr Alban, gyda thaliadau'n cael eu gohirio o ganlyniad i hynny. Nid yw'r trefniadau hyblyg yn yr Alban ond yn dechrau ar ôl derbyn y taliad credyd cynhwysol cyntaf. Felly, mae rhai hawlwyr yn yr Alban wedi bod yn aros chwe wythnos neu fwy am eu taliad cyntaf.