9. Dadl Plaid Cymru: Credyd cynhwysol

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 6 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 6:04, 6 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. A fyddech yn cydnabod mai'r rheswm pam y cafodd y credyd cynhwysol ei dreialu ledled y DU yw oherwydd maint y problemau sydd ynghlwm wrtho? A fyddech yn cydnabod hefyd y byddai'n ergyd ddwbl i hawlwyr yng Nghymru pe na baem yn cael y swm o arian y byddai ei angen i ariannu hyn yn briodol? Dyna'r pryder; yr hawlwyr sy'n ganolog i hyn.