Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Mae swyddogion wrthi'n caffael diweddariad o'r canllawiau dylunio teithio llesol ar hyn o bryd, a fydd yn adeiladu ar y tair blynedd gyntaf o ddefnyddio'r canllawiau ac yn cymryd arfer gorau a rheoliadau newydd i ystyriaeth. Gallaf ddweud wrth yr Aelod bod pob awdurdod lleol ac eithrio un wedi cyflwyno eu mapiau rhwydwaith integredig cyntaf erbyn y dyddiad penodedig ac maen nhw'n cael eu gwerthuso erbyn hyn, ac mae'r awdurdod sydd ar ôl wedi ei gyfarwyddo i gyflwyno ei fap rhwydwaith integredig erbyn diwedd mis Chwefror. Felly, rydym ni wrthi'n ystyried dewisiadau ar gyfer dilysu canlyniadau'r gwerthusiad yn annibynnol, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod ac i'r Cynulliad pan fydd y penderfyniad wedi ei wneud.