Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Diolch, Llywydd. Gan mai dyma'r Cyfarfod Llawn olaf cyn toriad y Nadolig, a gaf i ddymuno cyfarchion y tymor i'r Prif Weinidog a'r Aelodau eraill? Ac yn arbennig, gobeithio, blwyddyn newydd hapus a heddychlon hefyd, Prif Weinidog.
Prif Weinidog, dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, rwyf i wedi gofyn sawl cwestiwn yn y Siambr hon ac rwyf i wedi bod yn adolygu'r cwestiynau hynny dros y diwrnod neu ddau diwethaf. Gan ein bod ni'n mynd i doriad nawr, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi roi rhywfaint o eglurder i rai o'r atebion yr ydych chi wedi eu rhoi dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, sef: a wnaethoch chi gyfarfod â chyn aelod o'ch Cabinet ym mis Hydref 2014 i drafod ei bryderon am ymddygiad un o'ch cynghorwyr arbennig?