Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 12 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:31, 12 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, yr un peth y gallaf ei ddweud yn eglur iawn yw nad yw hyn yn rhyw fath o ychwanegiad dewisol. Rydym ni'n disgwyl cydymffurfiad â'r Ddeddf, nid yn unig o ran y ddamcaniaeth sy'n sail iddi, ond yn ymarferol hefyd. Hoffwn gynnig fy llongyfarchiadau i gyngor Caerdydd. Gobeithiaf y bydd eraill yn dysgu o'u hesiampl dda, gan ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr bod gennym ni rwydwaith priodol ledled Cymru ac nid llwybrau ar wahân yn unig—dyna sy'n digwydd ar hyn o bryd—ond eu cyfuno a gallu dweud yn y dyfodol bod pobl yn gallu cyrraedd y gwaith a'u bod nhw'n gallu beicio at ddibenion hamdden hefyd ar rwydwaith lwybrau beicio y gellir eu cymharu â rhai o'r goreuon yn Ewrop. Mae cryn ffordd i fynd, gan fy mod i wedi gweld yr hyn sydd ar gael, er enghraifft, mewn gwledydd fel Awstria. Ond, gallaf, gallaf ddweud wrth yr Aelod ein bod ni'n gwbl benderfynol o wneud yn siŵr bod mapiau'r rhwydwaith integredig yn gadarn, yn gydnerth ac y byddant yn hybu teithio iach a theithio llesol yn y dyfodol.