Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Rwy’n gresynu unwaith eto nad ydych chi wedi gallu rhoi ateb i'r ail gwestiwn i mi.[Torri ar draws.] Gyda'r parch mwyaf, dyna allu Aelod etholedig, i ddod i'r Siambr hon—dyna'r fraint sydd gennym ni fel Aelodau etholedig—i ofyn y cwestiynau hynny. Dyna yw diben cwestiynau i'r Prif Weinidog a chwestiynau a datganiadau gweinidogol. Rydym ni'n dewis y cwestiynau, rydym ni'n ceisio cael yr atebion. Rwy'n gresynu, ar ddau gwestiwn syml braidd, sy'n amserol, nad ydych chi wedi gallu rhoi ateb mwy cryno i mi, i egluro, yn benodol, rai o'r atebion yr ydych chi wedi eu rhoi dros y pum wythnos diwethaf.
Ar ddau achlysur arall, rwyf wedi gofyn i chi, ac nid ydych chi wedi rhoi ateb i mi: a fyddech chi'n diddymu cyfrifoldeb cyfunol Gweinidogion y Cabinet pan fyddant yn rhoi tystiolaeth i'r person annibynnol yr ydych chi wedi ei benodi i wneud ymholiadau? Ar y ddau achlysur, ac ar drydydd achlysur pan ofynnodd Darren Millar y cwestiwn i chi, nid ydych chi wedi rhoi ateb 'byddwn' neu 'na fyddwn' o hyd. A wnewch chi gadarnhau y byddwch chi'n diddymu cyfrifoldeb cyfunol Gweinidogion i wneud y sylwadau hynny i'r person annibynnol os byddant yn dymuno?